|
|
Archif Newyddion |
|
David Mcnall (cyn-ddisgybl) yn cyflwyno siec am £100 tuag at Apel Pendalar wedi iddo wneud gwahanol bethau yn ei waith yn Little Chef, Bangor.
Nice one David! |
|
Gwasanaeth Dydd Gwyl Dewi (03/03/08)
gyda'r delynores Elinor Bennett...mwy |
|
|
| |
Llongyfarchiadau i’r disgyblion sydd wedi gwneud yn dda iawn yn y gystadleuaeth celf a chrefft yr Urdd.
|
|
|
|
|
Diwrnod y Llyfr
Cafwyd gwasanaeth arbennig Diwrnod y Llyfr dan ofal Miss Sian Evans Ddydd Iau Mawrth 6ed a dyma luniau o'r gwasanaeth gyda nifer y disgyblion wedi gwisgo fel eu hoff gymeriadau o'u hoff lyfrau. Daeth y gwasanaeth i ben trwy ganu can am hoff lyfr pawb sef Y Beibl.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r gwasanaeth |
|
Ionawr 2008 ~ Rhys Roberts yn cyflwyno siec am £950 ar gyfer Apel Pendalar....
Dyma Rhys Roberts yn cyflwyno siec am £950 ar gyfer Apel Pendalar. Rhedodd Rhys yn y Great North Run yn ddiweddar er mwyn codi arian ar gyfer yr ysgol.
Mae ei wraig Rhian yn gweithio yn yr ysgol. Diolch o galon Rhys!
|
|
Ioanwr 2008 ~ Ymweliad cyffrous gan yr Heddlu
PC Ian Roberts yn croesawu Dosbarth 8 at hofrennydd yr Heddlu pan ddaeth i ymweld a'r ysgol ar Ionawr 30ain.
|
|
PC Ian Roberts yn croesawu Dosbarth 8 at hofrennydd yr Heddlu pan ddaeth i ymweld a'r ysgol ar Ionawr 30ain. |
Y ddau yma o Ddosbarth 7 wedi ymuno a'r Heddlu!! |
|
|
Cyngerdd Apêl Pendalar
Nos Sadwrn, 19eg o Ionawr, 2008
yn Galeri, Caernarfon
Hywel Gwynfryn a gyflwynodd
Côr Rhuthin a'r Cylch- arweinydd a chyfeilydd Robat Arwyn
Meinir Wyn
Rhys Meirion
Annette Bryn Parri
Gair ychwanegol o ddiolch gan- Cyn Bennaeth yr Ysgol a Chadeirydd y Pwyllgor Apêl, Mr Evan Jones ac esboniodd yntau fod yr ymgyrch codi arian yn mynd yn ei flaen am o leiaf blwyddyn arall. Diolchodd hefyd i'r noddwyr Roberts Port Dinorwic Ltd ac i staff Galeri am eu cydweithrediad parahol.
Pennaeth yr Ysgol a threfnydd y cyngerdd Ieuan Roberts yn "Diolch o galon i bawb ddaru gyfranogi at gyngerdd wych. Roedd pawb yn canmol a llawer yn dweud y byddant wedi gallu eistedd am ddwy awr arall yn gwrando ar y wledd a gawsant.
Crewyd awyrgylch braf a chyfeillgar o'r rihyrsal gyntaf am 5.00 a pharaodd y teimlad drwy gydol y nos.
Gobeithio ein bod wedi codi dros £4,000 tuag at Apêl Pendalar."
Ychydig o luniau o'r rihyrsals & diolchiadau cyngerdd Rhys Meirion.
Plant Rhys yn cyflwyno gwin i'r dynion a blodau i'r merched....cliciwch yma
|
|
Hogia Llanber yn cyflwyno siec o £950 ar ol i griw o Prince of Wales Llanber gael gwalltia 'blonde'! Diolch i genod Hairlines, Llanberis; Genod Gegin Ysgol Dolbadarn;a Saad Mansoor. |
|
Adroddiad Arolwg Estyn
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad arolwg Estyn ar eu gwefan. |
|
Agoriad Swyddogol Ysgol Pendalar
22-10-07
Agorwyd yr ysgol yn swyddogol ar fore Llun Hydref 22ain am 9.30. Mewn seremoni syml a'r neuadd yn llawn am y tro cyntaf croesawyd cyn-benaethiaid yr Ysgol, cyn-gadeiryddion y Corff Llywodraethol, Cynghorwyr Sir a'r Cadeirydd, swyddogion y Gwasanaeth Ysgolion; Llywodraethwyr; Aelodau o'r Pwyllgor Apêl a'r Grwp Gweithredu. Roedd y Pensaer Graeme Hughes a'r contractwyr R.L.Davies yn bresennol hefyd.
Cafwyd gwasanaeth byr i agor y seremoni a chafwyd cân yr un gan ddisgyblion o Flwyddyn 6 Ysgol Y Gelli a disgyblion o Flwyddyn 9 o Ysgol Syr Hugh Owen.
Darllenwyd 2 englyn am ysgol Pendalar gan un o'r disgyblion Aaron Jones Evans. Y siaradwyr oedd Dewi Jones, Pennaeth Gwasanaeth Ysgolion Gwynedd; Cadeirydd Cyngor Gwynedd Y Cyng. Meinir Owen ac Evan Jones, cyn Bennaeth yr ysgol.
Dadorchuddwyd plac arbennig gan Bryn Terfel a Dafydd Wigley a hwythau hefyd yn dymuno'n dda i'r ysgol newydd.
|
|
Wythnos Agored
Bydd cyfle i gyn-staff/ddisgyblion/lywodraethwyr a ffrindiau cyffredinol yr ysgol ddod draw i ymweld â'r ysgol newydd rhywbryd yn ystod yr wythnos sydd yn cychwyn Hydref 22-25ain. Dewch draw am sgwrs, 'paned ac i weld yr adeilad newydd bendigedig yma.
Nid ydym yn anfon gwahoddiadau ffurfiol allan i neb (onibai am yr agoriad swyddogol) felly os wyddoch am rywun sydd eisiau dod i weld yr ysgol gadewch iddynt wybod ond PLIS wnewch chi gysylltu â'r ysgol i adael i ni wybod pa bryd y byddwch yn bwriadu ymweld.
Ffoniwch 01286 672141 neu e-bostio'r pennaeth Ieuan Roberts ar pennaeth@pendalar.gwynedd.sch.uk |
|
| Mae Seiont Nurseries wedi rhoi planhigion a nwyddau eraill ar gyfer ein iardiau mewnol. |
|
|
|
|
Pop Pendalar 2
Noson lwyddiannus unwaith eto ‘lenni, gyda digon o gerddoriaeth Cymraeg modern gan dri band talentog dros ben, gyda Creision Hud yn agor y noson. Dyma fand newydd ifanc o Ysgol Syr Hugh Owen a brofodd i fod yn fand dawnus dros ben, ‘roedd pawb yn brolio sŵn y gerddoriaeth oedd yn llenwi’r neuadd, ac yn sicr fe fydd sôn mwy amdanynt ar y radio yn fuan.
Bysedd Melys oedd nesaf ar y llwyfan, cerddoriaeth ffantastig gan ‘ogia Môn. Profant unwaith eto eu bod yn berfformwyr proffesiynol, gan ganu amrywiaeth o ganeuon hen a newydd.
I gloi’r noson, cawsom ein diddanu gan y band enwog o ardal Ffestiniog - Frizbee. Gyda’r gynulleidfa yn dawnsio ac yng nghyd ganu’n uchel, yn enwedig i’r hen ffefrynnau “Heyla” ac “Si hei lw fy mabi”. (profant i fod yn boblogaidd iawn gyda genod Pendalar)!
A pwy oedd yn cydlynu’r holl noson yn ein symud ni o un artist i’r llall, wel Mr Kev Bach ei hun, unwaith eto mor hwyliog ac egniol ag arfer, yn cael sgyrsiau gyda rhai o’r gynulleidfa wrth fynd ymlaen.
Diolch yn fawr iawn i chi gyd am roi eich amser a’ch egni yn rhad ac am ddim ar gyfer apêl Pendalar; roeddech i gyd yn ffantastig. Cliciwch yma i weld lluniau'r noson.
Golff Ysgol Pendalar 2007
1. Martin Pritchard, Chris Campbell, Martin McKernon, Paul Owens. 124
2. Nigel Malkin, Dave Williams, Roy Williams, Alan Roberts. 121
3. Deiniol Roberts, Gareth Roberts, Myrddinn Roberts, Gwyn Jones. 120
4. Colin Hughes, Dylan Hughes, Dylan Thomas, Mervyn Williams. 119
5. T Edwards, Tex Davies, John Jones, John Morris. 117 1st 9
6. Gary Black, Peter Aitken, R Tocker, Les Williams. 117 1st 9
Ieuenctid
1. Joshua Ward 37
2. Huw Campbell 36
Gwesteion
JO Roberts, John Ogwen, Derec Owen, Gareth Roberts 116
Nearest the Pin 17th - Duncan J Edwards, 22 1/2 inches
Longest Drive - Dylan Evans
Ladies Prize
Stella Dafis, Helen Evans, Sandra Williams, Carol Wiliams |
|
| Ysgol Newydd |
 |
Grwp Gweithredu Ysgol Pendalar gyda Phensaer yr ysgol Graeme Hughes yn ymweld a'r ysgol yn ddiweddar.
Dyma Pat a Peter Smith a Len Williams a fu mor weithgar yn sicrhau fod yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu. |
|
| Rhagfyr 2006 |
Stondin Cacenau
Ar y Maes o flaen y banc HSBC
Dydd Gwener Rhagfyr 1af
Elw at Apêl Pendalar (2006) |
|
| Tachwedd 2006 |
 |
Cardiau gan Karen Jones
Y Breseb Sanctaidd
Ar gael o'r Ysgol
50c yr un neu 5 cerdyn am £2.00
Elw at Apêl Ysgol Pendalar |
|
| Medi 2006 |
 |
Llongyfarchiadau i Anti Liz yn y gegin. Mae hi wedi ymddeol heddiw (Dydd Gwener Medi 29 2006) ar ol bod yma ers amser y Rhufeiniaid!! Fydd y lle 'ma byth yr un fath! Pob lwc i'r dyfodol. |
|
|
Newyddion trist
Yn sydyn, rhy sydyn o lawer, ar brynhawn Dydd Gwener Medi'r 1af bu farw Cemlyn Llyr Owen yn 17 oed. Wedi'r holl salwch a gafodd trwy ei fywyd dyma salwch newydd hollol annisgwyl yn ei daro i lawr mewn llai na 24 awr.
Cydymdeimlwn gyda'r teulu oll.
Er gwaethaf ei anableddau a'i salwch, bachgen annwyl tu hwnt oedd Cemlyn ac yn gymeriad hoffus a fyddai'n ffrindiau hefo pawb ac wrth ei fodd yng nghwmni plant ac oedolion.
Teyrnged ei Bennaeth ar ddiwrnod ei angladd
cliciwch yma (pdf) |
|
Rhestr Gweithgareddau 2006/2007 Apêl Ysgol Pendalar - cliciwch yma
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Sian Evans ac Anthony ar enedigaeth merch Elin Rebecca. Dymuniadau gorau i'r teulu. |
|
| Dewch i weld Geraint Roberts yn y sioe fiwsig 'South Pacific' yn neuadd gymunedol Benllech o Mai 1af - 6ed. Tocynnau ar gael o 'Benllech Newsagents' , 'Egerton Estates' , neu ffoniwch Ger yn yr ysgol. |
|
Ysgol Newydd
stori ar wefan bbc...mwy |
|
Datganiad yr Asiantaeth i'r wasg.
...cliciwch yma |
|
Linc ar gyfer trafodaeth ynglyn a Fframwaith Asesu Statudol. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. ...cliciwch yma
|
| Llun o 'Jim Royle' yn ymweld a'r Uned Hyn!! |
 |
|
| |
|
|