Archif Newyddion

English

2011

Rhai o luniau diwrnod golff capten Llanfairfechan, Mr Viv Williams Dydd Sadwrn Mai 21ain. Cafwyd rhodd o £380 i'r ysgol. Diolch yn fawr iawn.

 


Marathon Golff Ysgol Pendalar

Mae'r ysgol yn ceisio codi arian tuag at fws mini newydd yr ydym yn ei gael gan Lord's Taverners ym Mis Hydref eleni. Os fedra ni godi £12,500 mi gawn ni'r bws, sydd yn werth £35,000. Byddwn yn gallu mynd a'r plant sydd mewn cadeiriau olwyn o gwmpas yn ddiogel wedyn er mwyn iddynt fedru manteisio yn llawn ar ymweliadau addysgol.

Bu tua dwsin o 'olffars' mewn bygi golff yn chwarae golff trwy'r dydd yng Nghlwb Golff Caernarfon ar Ddydd Llun Mehefin 13eg. Roedd y golff yn cychwyn am 5.00 y bore ac yn para tan 9.45 yr hwyr. Llwyddwyd i godi tua £2,000 mewn nawdd ar y diwrnod.

Diolch i'r golffwyr; John Hardy; Geraint Hardy; Rhys (Archie) Parry; Dafydd Parry; Richard T. Jones; Chris Roberts; Wil Ty Hapus; Glyn Chips; Iestyn Garlick; Jonathan Williams; Gwyn Jones a Ieuan Roberts. Diolch hefyd i Fanc Barclays a Robert Parry (GNH Golf) am noddi'r achlysur ac i swyddogion clwb golff Caernarfon am eu cymorth ac i griw Wedi 7 am gyflwyno eitem sensitif a pherthnasol.

Cyngerdd Pendalar yn Y Galeri

Diolch o galon i bawb am sicrhau llwyddiant Cyngerdd Pendalar yn Y Galeri ar Nos Sadwrn Mehefin 4ydd 2011 -Bu Arwel Jones yn cyflwyno: Sian ag Emyr Gibson; John Eifion Jones; Bedwyr Gwyn Parri; Plant Ysgol Pendalar; Annette Bryn Parri; Gemma Markham; Hogia'r Wyddfa ac, ar fyr rybudd, Côr Dre. Diolch i Annette am drefnu'r cyngerdd ac i staff Galeri am eu croeso a'u cyd-weithrediad arferol. Diolch hefyd i'r noddwyr; Byw Bywyd; Dafydd Hardy.

Diolch i'r gynulleidfa am eu cefnogaeth parhaol ac am eu gwerthfawrogiad o berfformiadau'r artistiaid.

Diwrnod Agored Ysgol Pendalar
Bore Sadwrn Mehefin 11ed 2011 - 9.00-12.00
Cyfle i chwi ddod i adnabod yr ysgol yn well.
I fynegi barn am yr ysgol. I drafod dyfodol yr ysgol. Gweld gwaith y disgyblion

Cyngerdd Pendalar yn Y Galeri

Nos Sadwrn Mehefin 4ydd 2011 - 7.00 y.h.

Tocynnau £10 (ar werth yn Galeri) - Elw at Ysgol Pendalar

Arwel Jones yn cyflwyno:

1. Sian ag Emyr Gibson.

2. John Eifion Jones

3. Bedwyr Gwyn Parri.

4. Plant Ysgol Pendalar.

5. Annette Bryn Parri

6. Gemma Markham

7. Hogia'r Wyddfa

8. Côr Cynta i'r Felin

Noddwyr: Byw Bywyd; Dafydd Hardy



I ben Y Wyddfa fawr!

Rhai o staff yr ysgol aeth i ben Yr Wyddfa ar Ddydd Sul Mai 1af er mwyn codi dros £1,000 tuag at yr ysgol. Da iawn genod (a Hefin!)

Staff cerdded Yr Wyddfa

Blog by Keith Towler, Children's Commissioner for Wales

Internal use: on staff Intranet

We built this city on rock and roll

Sometimes I stay in some interesting places when I'm on my travels around Wales but breakfast this morning was pretty unique. I was buttering my toast as the cleaner of the bed and breakfast I was staying in belted out: "We built this city on rock and roll" at the top of her voice. No holds barred.

The Jefferson Starship classic was obviously one of her favourites. No doubt in her head her singing was in tune but to my ear she was truly awful. Perhaps I should have told her but when I looked into the kitchen through the open door and saw she was using her mop as an electric guitar I just didn't have the heart.

The day before I spent some time in Ysgol Pendalar in Caernarfon before meeting with the Flintshire Young Carers Forum. Both were really great visits.

I have been to Pendalar before - two years ago - and this time I was invited to do so by Hayley, one of the pupils, who I met at the Clebran meeting a few weeks ago. It was lovely to meet her again and to meet some of her classmates. I wrote a blog about the Clebran meeting. The blog was called "Size 10s" because one of the questions I got was about the size of my feet. Unfortunately the young person who wrote that question could not make the Clebran meeting but I met him at Pendalar and thanked him for the most unique of questions!

Louise, one of our volunteers, came along on the visit and it was good to see that the school has developed even further since I was last there. On that occasion I remember that Mr. Roberts, the head teacher, told me how much effort is put into raising funds for the school so the pupils can enjoy the full range of activities the school wants to provide. And again Mr. Roberts raised the same funding issues but this time he had a dossier in hand. As a special school the funding Pendalar enjoys is dependent upon a formula that assesses the learning needs of its pupils. There are five funding bands from 1* for exceptional needs through to 5. No doubt the assessment process is a complicated one and the dossier that Mr. Roberts handed over compared the funding position in Gwynedd with other parts of Wales.

Some of the figures are startling. For example a pupil with exceptional learning needs at band 1* is funded to the tune of £17,729 in Gwynedd but in Ynys Mon the funding level for the same band is set at £18,870. At level 1 Gwynedd fund at £14,254 and in Ynys Mon at £12,218; but at level 2 Gwynedd pay 10,276 and Yns Mon at 12,218 and at level 4 Gwynedd pay 7,627 and Ynys Mon at £12,218. These pay discrepancies appear, on the face of it, to disadvantage pupils with special needs in Gwynedd. Mr. Roberts' dossier had funding levels from other councils in Wales including Flintshire, Conwy and the Vale of Glamorgan. At level 1 they fund places at £18,522, £16,842 and £16,954 respectively.

I will discuss with the team what we might do with this information? My powers as Commissioner do not extend to funding decisions but I can't help but feel that I need to verify these figures and discuss with the team any steps we may take.

I ben Y Wyddfa fawr!

Mae criw o staff Ysgol Pendalar yn cerdded i fyny'r Wyddfa mewn gwisg Ffansi ar Ddydd Sul Mai 1af gan gychwyn am 9.00. Y bwriad ydi codi arian tuag at yr ysgol. Pob lwc i Alison, Hefin, Dan Lois, Ann, Lisa, Awen, Susan, Sara, Nia, Heather Lowe ei merch a gwirfoddolwr.
Cofiwch eu noddi!

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, ar ymweliad 'Darganfod Ffeithiau' i Ysgol Pendalar.... cliciwch yma

Dydd Gwyl Dewi Sant

Ewch draw i'r Albwm i'n gweld yn dathlu Dydd Gwyl Dewi Sant ar Fawrth 1af 2011.

 

CYNGERDD WEDI EI OHIRIO

Gyda thristwch mawr y clywsom y bore heddiw am farwolaeth Mr Ifan Bryn Roberts, sef tad Annette Bryn Parri.

Yn dilyn y newyddion trist yma ni fyddwn yn parhau gyda'r cyngerdd yn y Galeri nos Sadwrn ( Ionawr 29ain 2011). Yr ydym yn gofyn yn garedig i bawb sydd wedi archebu tocynnau i ddal eu gafael arnynt gan ein bod am geisio ail-drefnu'r cyngerdd rhywbryd yn ystod Mehefin.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at Annette a'r teulu i gyd yn eu profedigaeth.

Marathon Llundain

colin pugh Colin Pugh yn cyflwyno siec i'r ysgol wedi iddo redeg yn Marathon Llundain yn 2010. Nice one Col!

 

Cyngerdd Pendalar
Galeri
Nos Sadwrn Ionawr 29ain 2011
7.00
Tocynnau £10
(ar werth yn Galeri)
Elw at Ysgol Pendalar

Arwel Jones yn cyflwyno.

1. Sian ag Emyr Gibson.
2. John Eifion Jones
3. Bedwyr Gwyn Parri.
4. Plant Ysgol Pendalar.
5. Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw (Piantel).
6.Hogia'r Wyddfa
7. Côr Cynta i’r Felin

Noddwyr; Byw Bywyd; Dafydd Hardy

 

2010

Datganiad gan Boomerang

boomerang

Yn dilyn effeithiau’r tywydd a’r rhagolygon dros y dyddiau nesa’ bu’n rhaid cymeryd y penderfyniad i ganslo cyngerdd Nadoli Bryn Terfel yn Venue Cymru, Llandudno Nos Sadwrn y 18fed o Ragfyr .

Diolchwn i bawb sydd wedi helpu gyda’r trefniadau ond, mae wedi bod yn amhosib diystyrru oblygiadau iechyd a diogelwch.

Gobeithiwn recordio fersiwn arall o’r sioe gyda Bryn ar gyfer ei darlledu Noswyl y Nadolig mewn lleoliad arall.

Cyngerdd Bryn Terfel 18.12.10

Cyngerdd Bryn Terfel yn Arena Llandudno nos yfory wedi ei ganslo gan y cwmni teledu Boomerang. Byddwn yn rhoi'r arian/sieciau yn ol i bawb sydd wedi talu yn fuan yn y flwyddyn newydd. Diolch i bawb am gefnogi'r fenter ac i Bryn am feddwl amdanom unwaith eto!

Nadolig Llawen i chwi i gyd.

Clwb Rotari Caernarfon

cyflwyno siec cyflwyno siec

 

Rhys Prydderch o Glwb Rotari Caernarfon yn cyflwyno siec am £1,000 i'r Pennaeth ar ol cyngerdd Nadolig llwyddiannus iawn yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon Rhagfyr 3ydd.


Gyda thristwch mawr yr ydym heddiw yn cyhoeddi fod un o’n disgyblion anwylaf, Fenn-Lee Jones o Stablau Tan Y Coed, Craig y Ddinas, Llanrug, wedi marw yn sydyn yn ei chartref y bore ‘ma.

‘Roedd Fenn yn 15 oed ac yn nosbarth Hafan. Mae ein meddyliau yn awr gyda ei rhieni, Arfon ac Elaine a’r plant Thomas a Niamh, a gyda staff y dosbarth yn eu colled.

 

Llun o Fenn yn 'Prom Pendalar' Nadolig 2009. Cysga'n dawel cariad bach.

 

Cwmni Boomerang yn ffilmio
Nadolig Bryn Terfel

Nos Sadwrn Rhagfyr 18ed
7.30
Arena, Venue Cymru
Llandudno
gyda
Bryn Terfel
Caryl Parry Jones
Catrin Finch
Côr Glanaethwy
Côr-Dydd
Gwawr Edwards
John Ogwen

Tocynnau £10
Elw y noson i gyd at Ysgol Pendalar

Mae 300 o docynnau ar gael a bydd rhieni/staff/ffrindiau Pendalar yn cael y cynnig cyntaf i brynu’r tocynnau.

Mae’r tocynnau ar werth…first come first served.

Cysylltwch â ni:

e-bost: pennaeth@pendalar.gwynedd.sch.uk
neu ffôn: 01286 672141

Great North Run

Diolch i Geraint Thomas (Porthaethwy) a redodd yn y Great North Run yn ddiweddar i godi swm o arian sylweddol i'r ysgol. Nice one Ger!

derbyn siec Dyma lun y gofalwr (Richard Jones) a phennaeth yr ysgol yn derbyn y siec

 

Cyngerdd Nadolig 2010

Dydd Mercher Rhagfyr 8ed. Cyngerdd Nadolig. 1.30. Neuadd yr Ysgol. (Gwesteion yn bennaf)

Nos Iau Rhagfyr 9ed Cyngerdd Nadolig 6.30 Neuadd yr Ysgol (Rhieni yn bennaf)

Gwasanaeth Nadolig

Dydd Llun Rhagfyr 13eg. Gwasanaeth Nadolig. 10.00 Eglwys Y Groes Maesgeirchen, Bangor.

Diwedd Tymor

Diwedd Tymor. Dydd Llun Rhagfyr 20ed. Ail-agor Ionawr 4ydd.

Ffair Nadolig

ffair nadolig

Ar gael i’w llogi

Ystafell Gyfarfod gyfforddus (20+)
Neuadd fawr hwylus
Ystafell goginio gyda 4 popdy drydan
Ystafell Gyfrifiaduron (gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol)

am brisiau cystadleuol.

Gellir trefnu cyfarfodydd/gweithgareddau gyda’r nos neu ar benwythnos yn ogystal am delerau rhesymol. Am ragor o fanylion cysylltwch a’r ysgol ar: 01286 672141 neu anfon e-bost: clerc01@pendalar.gwynedd.sch.uk

AsperJer neu AsperGer?

Cliciwch yma i ymuno yn y sgwrs.

Ffrindiau Pendalar

Mae angen i ni ail-sefydlu’r gymdeithas Ffrindiau Pendalar.

Cynhelir cyfarfod yn neuadd yr ysgol i bawb sydd â diddordeb am 7.00 Nos Lun Medi 13eg 2010. Croeso cynnes i chwi fod yn bresennol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Tymor Yr Hâf 2010- Cliciwch yma am fwy.

Mae Ysgol Pendalar yn aelod o ‘Gynllun Ysgolion Iach Gwynedd’.- Cliciwch yma am fwy.

Diwrnod Agored, Bore Sadwrn -27-03-10- Cliciwch yma

Diwrnod y Llyfr- Cliciwch yma i weld lluniau o'r gweithgareddau

Lamb Inquiry-Cliciwch yma
(Am yr adroddiad llawn ewch i www.dcsf.gov.uk/lambinquiry)

We cannot ignore most vulnerable- Cliciwch yma

North Wales special school pupils miss out on millions- Cliciwch yma


Canllawiau tywydd garw Gaeaf 2010 - cliciwch yma

2009

Ysgol Pendalar Golf Day raised nearly £4,000 last Saturday.

Golff Ysgol Pendalar 2009

Almost 200 golfers took part in the competition which was won by Pendalar caretaker Richard Jones and his team, Chris Roberts; Dewi Evans and Dylan Green with a score of 124 points.


Many thanks to the sponsors; Rondo; CDH; G.L.Jones Playgounds; GNH Golf Carts; Viv Williams and St Deiniol Golf Club Bangor; Pendalar School Staff; whose continuing support enables this competition to maintain it’s success and popularity.

i weld y lluniau - cliciwch yma

Canlyniadau - cliciwch yma


Pedlo Pendalar 2009
Diolch yn fawr iawn i’r canlynol am eu help gyda’r Pedlo eleni.
Diolch mawr i dy Hanner Ffordd am gael defnyddio’r maes parcio a Billy a Penny a Rich yn y Garddfon Y Felinheli am fwydo pawb ar ddiwedd y daith fel arfer.
Reidwyr
Dafydd Charles
Himyrs (Emyr Roberts)
Bonc (Islwyn Owen)
Bethan Owen
Dewi Jones
Deiniol a Jac Harries
Keith a Llewelyn Hughes
John Howard Hughes
Eirys Hughes
Myfanwy Brierley Edwards
Clare Henson
Osian Emyr
Gwyndaf a Teleri Jones
Wil Williams, Felinheli
Llinos a Cath, Llangefni
Hywel Meredydd
Jimmy Edwards (Clwb Cefnogwyr C’fon Town)
Carwyn Moss

Bws Rownd a Rownd- Ieu, Dafydd G, Gareth a Chris

Vannette- Enid a Gwenlli

Ceir; Cled a Mair a Ceri

 

ii weld y lluniau - cliciwch yma


Wyau Pasg i bawb!

Daeth Mr Ieuan Jones i mewn i'r ysgol yn ddiweddar gyda wyau Pasg i'r plant i gyd (a rhai staff!). Diolch yn fawr i Lewod Caernarfon am eu rhodd caredig.

Shamans and horses work magic on autistic Rowan

http://www.timesonline.co.uk/tol/arts_and_entertainment/books/article5779851.ece

Special needs battle highlighted

Nearly one in five children has a special educational need
Too many parents of children with special educational needs feel they have to battle the system to get what their children need, ministers admit.

cliciwch yma

2008

Gwasanaeth Diolchgarwch

Dyma luniau o’r Gwasanaeth Diolchgarwch yn yr Eglwys Gatholig yn Twthill 23.10.08.

Gwasanaeth Diolchgarwch 2008

 

Cliciwch yma i weld y lluniau.

 

 

Holiadur I Rieni

 

Taith o Gaerdydd i Borthaethwy

Lluniau mae Mel ac Awen wedi eu gyrru o'u ffon symudol ar eu taith o Gaerdydd i Borthaethwy yr wythnos dwytha. Codi pres i'r ysgol ar achlysur penblwydd Mel yn 50 oed "chwilio am rywbeth gwahanol i ddathlu penblwydd!"

Cliciwch ar unrhyw lun i'w chwyddo...

 

Pedlo Pendalar 2008

Diolch i bawb am gymeryd rhan unwaith eto. Diolch arbennig i Dafydd Charles am ei waith arbennig arferol!
Cofiwch am yr arian!!

Cliciwch yma i weld y lluniau.

 


Medi 2008

Pwy ydi'r chauffeur yma yn mynd a dwy o'r rhieni allan am bryd o fwyd yn ystod Mis Awst? Rhywbeth i wneud gyda'r Ocsiwn Addewidion a fferm yn Llanfaglan?

 

 

 

 

Lluniau Golff Pendalar 2008

Cliciwch yma i weld y lluniau.

 

Awst 2008 ~ Mrs Eurwen Davies

Credaf y gall Eurwen gyfrif ei hun yn lwcus ei bod wedi cael y profiad difyr o weld newidiadau chwyldroadol ym myd Addysg Arbennig ac yn enwedig yn hanes Ysgol Pendalar.

Y newid cyntaf a welwyd oedd y trawsnewid o’r arfer o OFALU am ein plant i’r broses o fedru cynnig addysg synhwyrol a symbylus i bob plentyn yn yr ysgol. Mae’r dyddiau o gael 1 athrawes ac un weinyddes gyda 8 neu 9 o blant mewn dosbarth wedi diflannu a disgwylir i safon yr addysg fod yn uchel ar gyfer arolygiadau ESTYN.

Cafodd Eurwen y fraint o symud i ysgol newydd sbon pwrpasol a hynny fel Dirprwy Bennaeth ac wrth gwrs fe daflodd ei hun i mewn i’r prosiect gyda brwdfrydedd ac egni athrawes newydd gychwyn ar ei gyrfa!

Dyna fydd fy nghôf amdani, sef y brwdfrydedd a’r cysegriad tuag at y proffesiwn a hyn oll wedi ei sianelu tuag at fudd y disgyblion a’u teuluoedd. Bu iddi helpu cymaint o deuluoedd dros y blynyddoedd trwy eu cynghori ac wrth rannu profiadau melys a chwerw, roedd hi yno iddynt bob amser a hwythau yn gwerthfawrogi hynny ynghyd â’r cariad oedd ganddi tuag at genedlaethau o ddisgyblion Pendalar.

Ar yr olwg gyntaf byddai rhywun yn meddwl fod Eurwen yn berson brawychus a di-lol ond calon fawr feddal sydd yno yn dangos diddordeb ym mywydau y rhai sydd o’i chwmpas. sydd wedi helpu cymaint o athrawon ifanc di-brofiad a chymorthyddion dosbarth a fyddant wedi gwerthfawrogi ei gofal mamol drostynt.

Bu Eurwen yn ddirprwy gwych i mi a diolch iddi am gytuno i ddod gyda mi am flwyddyn yn yr ygol newydd. Bu yn gefn i mi yn in brwydr di-baid dros sicrhau hawliau sylfaenol i’n disgyblion a’u rhieni ac yn in brwydr dros sicrhau adeiladu Ysgol newydd. Un di-flewyn ar dafod ydi Eurwen a byddai’n gadael i chwi wybod ar unwaith os nad oedd yn cytuno gyda’ unrhyw osodiad neu awgrymiad ond wrth wneud hynny yn cynnig rhywbeth adeiladol fel dewis arall.

Dymunaf yn dda iddi at y dyfodol ac mi wn y gwelwn ddipyn ohoni yn ystod y tymor newydd gan fod ganddi brosiectau angen eu cwblhau yma a tydi bore Dydd Gwener ddim yn gyflawn heb gael paned a thost gyda disgyblion a staff Dosbarth 9!

Pob hwyl Eurwen a diolch o galon am bob dim.