Ymgyrch Codi Arian |
|
Ffrindiau Pendalar
Mae angen i ni ail-sefydlu’r gymdeithas Ffrindiau Pendalar.
Dros y 15 mlynedd diwethaf mae’r ysgol wedi gorfod codi arian ychwanegol sylweddol (dros £350,000) i’r hyn a gawn gan Swyddfa Addysg Gwynedd er mwyn rhedeg yr ysgol yn effeithiol ac yn ddiogel. Erbyn hyn nid ydym yn hyderus y bydd gennym ddigon o arian i barhau i gynnal y safonau addysg arbenigol a’r safonau uchel sydd yn ymwneud â iechyd a diogelwch y disgyblion a’r staff felly mi fydd angen parhau i godi arian.
Mae Ffrindiau Pendalar yn cynnwys rhieni a chyn rieni; staff presennol a chyn-staff; cyn ddisgyblion ac unrhyw berson neu fudiad arall o’r gymuned leol neu genedlaethol sydd â diddordeb mewn helpu’r ysgol mewn unrhyw ffordd a sicrhau dyfodol lewyrchus iddi.
Cynhelir cyfarfod yn neuadd yr ysgol i bawb sydd â diddordeb am 7.00 Nos Lun Medi 13eg. Croeso cynnes i chwi fod yn bresennol.
Os nad yw hi’n bosibl i chwi fod yn bresennol mae croeso i chwi gysylltu gyda’r ysgol i ddatgan eich diddordeb. DIOLCH YN FAWR

