Blog y Prifathro |
|
Erioed wedi gwneud 'blog' o'r blaen! Newydd fod mewn cynhadledd i Benaethiaid Ysgolion Arbennig Cymru yn y Quay yn Neganwy. Lle neis iawn a golygfeydd bendigedig ar hyd Afon Conwy. Mae'r gynhadledd blynyddol yma yn mynd o nerth i nerth a dros 75% o benaethiaid yn bresennol fel arfer. Ein tro ni, fel penaethiaid y Gogledd, oedd i drefnu'r gynhadledd eleni ond cawn seibiant y flwyddyn nesaf pan fyddwn yn cael ein sbwylio am dridiau yn yr Hilton yng Nghaerdydd! Prif siaradwr ein cynhadledd oedd Trystan Williams o Ysgol Arbennig Springfields Swydd Wiltshire. Hogyn o Fangor ydi Trystan ac mae'n bennaeth ar ysgol i ddisgyblion sydd ag anawsterau dysgu a phroblemau ymddygiad a phersonol. Mae'n siaradwr da iawn ac yn effeithiol iawn wrth drosglwyddo ei neges. (Dawn a dderbyniodd gan ei dad mae'n siwr, sef Wil Parry Williams, Prifathro Ysgol Treborth gynt!) Rhan bwysig o unrhyw gynhadledd yw???r arfer o ???networking??????.swnio???n waith caled ond cyfle i fynd i gymdeithasu ydi hyn a dod i adnabod criw y De yn well gan amlaf yng nghyffiniau???r bar! Ymddengys mai???r un problemau sydd yn gyffredin mewn ysgolion arbennig trwy Gymru er fod Ysgolion y De i weld yn derbyn mwy o arian i redeg eu hysgolion a chyda mwy o staff yn eu hysgolion na sydd gan ysgolion arbennig Gwynedd. Yr ydym mewn sefyllfa lle mae disgyblion newydd yn dod i mewn i Ysgol Pendalar ac yn colli'r cymorthydd 1:1 oedd ganddynt yn yr ysgolion prif lif 'gan fod gennym yr arbenigedd yma' i ddelio gyda' anawsterau'r disgybl. Sefyllfa hollol hurt. Difyr gweld bod 3 allan o'r 11 pennaeth yn ysgolion arbennig y Gogledd yn ymddeol yn y 6 mis nesaf a bod 4 arall ohonom yn ein 50au ac yn gallu ymddeol unrhyw bryd! Roedd nifer yn y gynhadledd yn bryderus am hyn ac yn gofidio bod blynyddoedd o brofiad ac arbenigedd yn y maes yn mynd yn wastraff. Yr ydym yn ceisio gwneud rhywbeth am hyn wrth drefnu cynhadledd blynyddol i ddirprwyon a phenaethiaid cynorthwyol mewn ysgolion arbennig fel eu bod hwythau yn dysgu'r sgiliau (a'r triciau!) arweinyddol sydd angen i redeg ysgolion arbennig yn y ganrif yma. Mynd i gynhadledd pwysicach fyth y prynhawn yma, sef cynhadledd gyrfaoedd i'n disgyblion oed uwchradd. Mae nifer o stondinwyr o wahanol golegau a mannau gwaith cysgodol yn dod draw i'r neuadd a'r cyfan wedi ei drefnu gan Mr Geraint Roberts. Fy mraint fydd cyflwyno Maer Caernarfon, Mr Hywel Roberts, ar ei ddiwrnod olaf yn y swydd. Bu Hywel yn ffrind da i'r ysgol yn ystod y flwyddyn a chredaf ei fod wedi cyflawni'r swydd gyda' urddas a synnwyr cyffredin. Pob hwyl
|

