}
Tudalen Cartref
Gwefan y Plant Gwefan y Staff Gwefan yr Ysgol Gwefan Rhieni

 

Link to the English language version


GwybodaethGWYBODAETH - NEWYDDION

Lluniau'r Ysgol Newydd

cliciwch yma

Mai 2007

Ysgol Newydd
Datblygiadau diweddaraf, Mai 2007!
...cliciwch yma

 

 

Ebrill 2007

Lluniau o ymweliad Bryn Terfel a Dafydd ac Elinor Wigley ac ysgol newydd Pendalar 30-04-07 - cliciwch yma

Ionawr 2007

Llun Catrin (FFisio) Crabtree ar ei phenblwydd yn 50 yn dosbarth Hafan ar 16-01-07.

Llongyfarchiadau mawr. Mr Roberts a Mrs Davies yn dweud 'Croeso i'r Clwb!'

Bws Newydd Ysgol Pendalar

Bws mini newydd

Datganiad/Gwahoddiad
Mae'r Variety Club yn cyflwyno'r bws newydd sbon 17 sedd ar Ddydd Iau Mehefin 7ed am 11.00 yn Ysgol Pendalar (hen safle). Os hoffech fod yn bresennol pan fydd Bill Symington a Jim Donaldson o'r Variety Club a Yvonne Crawley MD Cymru Vehicle Hire Ltd yn cyflwyno'r bws yn ffurfiol i'r ysgol bydd croeso mawr i chi yma.

Bydd aelodau o'r Pwyllgor Apel yn bresennol hefyd.


Mae Cadnant wedi cynnal raffl Pasg wythnos yma.

Hoffai Cadnant ddiolch yn fawr iawn i'r rhieni am eu cefnogaeth. Daeth plant yr ysgol gyda wyau Pasg a siocledi i'r ysgol er mwyn y raffl, yna gwerthwyd tocynnau!

Codwyd dros £100! Diolch yn fawr iawn. Bydd yr arian yma yn mynd at gronfa'r ysgol. Hefyd, roedd yna ddigon o
siocled i roi rhodd bach i blant lleol - Meithrinfa Tryweryn, Maesincla.


Gwefan Newydd
Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig yn hanes Ysgol Pendalar. Yr ydym ar fin ffarwelio â Mr Evan Jones, Y Prifathro, sydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, ond fel mae un drws yn cau mae un arall yn agor, sef creu gwefan i’r ysgol, ac mae cysylltiad rhwng y ddau. Mae Mr Jones a Mr Roberts y Dirprwy, wedi teimlo ers blynyddoedd nad ydi neges llais Addysg Arbennig ac Ysgolion Arbennig yn cael ei glywed yn y llefydd cywir a bod angen arf i fedru trosglwyddo’r neges yn effeithiol fel bod rhieni, ffrindiau, gwleidyddion, ysgolion prîf lîf a’r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu deall mwy am fyd addysg arbennig a’r gwaith hynod sydd yn digwydd gyda’r plant unigryw yma sydd yn haeddu pob cyfle i ddatblygu yn ddinasyddion fel pob plentyn arall.

Rydym ni fel ysgol yn ddiolchgar iawn i Meic Roberts o gwmni Delwedd am ei waith a’i amser weth sefydlu’r wefan sydd hyd yn hyn yn weddol newydd, ond mae’r potensial yma i ddatblygu’r wefan i fedru cynnwys pob mathau o bynciau sydd yn ymwneud ac addysg arbennig a chyfle i bobl gysylltu yn uniongyrchol â’r ysgol i holi am unrhyw agwedd o fywyd yr ysgol.

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo
     

Gemau Arbennig Gogledd Cymru

Cynhaliwyd Gemau Arbennig Gogledd Cymru ym Mangor ar Orffennaf y seithfed a’r wythfed. Cynrychiolwyd yr ysgol gan naw o ddisgyblion, yn cystadlu mewn nofio ac athletau. Cynhaliwyd y nofio ym mhwll Bangor, lle ‘roedd pedwar o ddisgyblion yn cymeryd rhan yn y gala. Enillwyd deg medal rhwng y pedwar a oedd yn cystadlu. ‘Roedd Dan, Neil a Kyle yn cynrychioli’r ysgol mewn ras hwyl gyfnewid, ac enillwyd medal efydd gan y tri.

Ar ol noson hwyliog o ddawnsio a chanu yn y disgo, cafodd pawb noson dda o gwsg fel paratoad ar gyfer yr athletau ar drac Treborth ddydd Iau.

Er nad oedd y tywydd o’n plaid, gwnaeth y naw disgybl eu gorau yn y cystadlaethau trac a chae, gan ennill y cyfanswm o ugain o fedalau.

Llongyfarchiadau i bob un o’r ddisgyblion a gymerodd ran.

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo
 
 
 

Y flwyddyn yma fydd yr Uned Hyn yn cymryd rhan yn Ymgyrch Plentyn Nadolig (Operation Christmas Child), prosiect sydd yn cael eu rhedeg gan Samaritan's Purse.

Mae Samaritan's Purse yn gweithio mewn bron i gant o wledydd ledled y byd, ac yn o gystal ag Ymgyrch Plentyn Nadolig (Operation Christmas Child), mae'n rhoi cymorth drwy'r flwyddyn i bobl mewn sefyllfaoedd anghenus.

Bydd disgyblion yr Uned Hyn yn lapio a llenwi bocsys esgidiau gydag anrhegion i blant sydd yn cael eu helpu gan y prosiect Ymgyrch Plentyn Nadolig. Dyma luniau o Mrs. Mair Parry yn siarad gyda'r dosbarth am y gwaith mae Samaritan's Purse yn gwneud. Cliciwch ar unrhyw lun i'w chwyddo.



 

Dylunwyd gan:
delwedd.co.uk
Gwybodaeth Cyswllt