Tudalen Cartref
Gwefan y Plant Gwefan y Staff Gwefan yr Ysgol Gwefan Rhieni

 

Link to the English language version


YsgolYSGOL - YMGYRCH CODI ARIAN

Apêl Pendalar
Pam bod rhaid i ni godi arian?...mwy


Pedlo Pendalar 2007

Dydd Sadwrn Medi 22ain 2007
(Taith tua 35 milltir)

The annual sponsored Pendalar School cycle ride has hopefully raised over £3000 towards the school's appeal for specialist equipment in the new school.
Ably led by Rownd a Rownd's Dafydd Charles, over 40 cyclists rode from Y Felinheli to Bryncir and back to Y Felinheli in changeable weather. The day was marred at the end of the journey when Elfyn Evans, who raised over £1,000 for the school 2 years ago running in the London marathon) was badly injured coming down Dinas Hill in Felinheli. After hospital treatment Elfyn was allowed home that evening.

Many thanks to all who supported the 6th cycle ride especially;

Billy and Sharon at the Garddfon, Y Felinheli for feeding the weary cyclists at the end of the journey
Staff at the Halfway House Felinheli for a warm send off & use of car park.
& Support Drivers;
Bus 1 - Eurwen & Ceri & Gwenlli & Chris & Teleri
Vannette- Pauline & Dafydd G & Gareth. Phil Hughes & Enid a Osian Emyr

9.30 Cyrraedd Halfway, Felinheli. Cychwyn tua 10.00 o'r Halfway
Trwy'r pentref; Lon Lâs Arfon i Gaernarfon; Trwy'r twnel at Lôn Eifion;
i fyny at Bryncir & yn ôl i'r Felinheli.

Reidwyr:
Dafydd Charles
Steven Davies
Bonc (Islwyn Owen)
Gwyndaf Jones
Gareth Hughes
Dewi Jones
Margaret Jones
Sian (Penrhos)
Ann (Penrhos)
Iwan Morris
Deiniol Jones
Kevin Hughes (Barclays)
Non Ifans
Keith Hughes
Tegid Roberts
Elfyn Evans
Stuart (Llanfaglan)
Marc & Chloe
Terry Jones

Criw Rownd a Rownd; Heledd,,Gwion Tegid, Emyr Gibson, Rhydian Lowri Grug, Gwion Aled, Robin Ceiriog, Merfyn Jones, Bedwyr Rees, Angharad Llwyd, & Idris a Mabon
Staff Pendalar; Awen, Sian, Ger, Helen & Rhydian, Ieu,
Pendalar pupil; Llewelyn Hughes (aged 8) rode all the way with Dad Keith

cliciwch yma i weld lluniau o'r diwrnod


£4072 raised in Charity Golf Day

230 golfers enjoyed a beautiful sunny day at Bangor's St Deiniol Golf Club and were then entertained by Tudur Owen and Emyr 'Himyrs' Roberts during the evening. By the end of a very long day for organisers Viv Williams and Ieuan Roberts, Pendalar Special School in Caernarfon had increased it's school fund by £4000+.
This was the 11th annual Pendalar School golf tournament and the event just goes from strength to strength with old friends returning every year to support the Caernarfon based special school even though almost half of the pupils at the school are from the Bangor/Bethesda area. Added to the South Wales visitors this year was ex-Stereophonics drummer Stuart Cable and he enjoyed himself so much that he has promised to return next year.
Special thanks to all who contributed to the success of the day especially to the following; Nant; CDH; Beresford Adams; Mortgage Buyers, Bangor; (as sponsors) and Robert Parry (Golf Buggies, Pwllheli) and Meditec who gave their services towards the event.

Pendalar Golf Guest List 2007
1. Gareth Roberts
2. JO Roberts
3. Huw Llywelyn Davies
4. Dewi Pws;
5. Bryn Fôn
6. Emyr ‘Himyrs’ Roberts;
7. Stuart Cable
8. Emyr Wyn
9. Peter Jones (Mynediad am Ddim)
10. Graham Pritchard (Mynediad am Ddim)
11. Robin Evans
12. Iestyn Garlick
13. Wyn Bowen-Harries ('Charlie' from Tipyn o Stad)
14. John Ogwen

Cystadleuaeth ‘Weakest Link’ Golff Pendalar 2007

Tîm 1- Wyn Bowen-Harries 23 pwynt
Tîm 2- Dennis Pritchard Jones 14 pwynt
Tîm 3-Emyr Wyn- 19 pwynt
Tîm 4- Alun 'Crwbin' Reynolds 18 pwynt
Tîm 5- Jonathan Williams 17 pwynt
Tîm 6- Gareth Roberts 30 pwynt
Tîm 7- Himyrs 14 pwynt
Tîm 8- Pawb 0 pwynt

Yr ‘enillydd’ eleni ydi ;
tîm Bryn Fôn

cliciwch yma i weld lluniau o'r diwrnod


Enillwyr Raffl Fawr Pendalar 2007

Gwobr 1af £250 Cathy Owen
2. Llun; Edward Pari-Jones. Teitl Ynys Lawd (South Stack)
Amanda Lewis
3. Print gwreiddiol gan Keith Andrew Sion
4. Gift Voucher £50 Teithiau Menai Travel
5. Poster wedi ei arwyddo Bryn Terfel 'Tosca' (rhodd gan Y Terfeliaid)
6. Poster wedi ei arwyddo Bryn Terfel 'Flying Dutchman' (rhodd gan Y Terfeliaid)
7. Gift Token £10 Jacmor Sara Jones
8. Whisky (rhodd gan Sheila Pendalar) D. Dafis Goat d/o Enid
9. Vodka (rhodd gan Sheila Pendalar) Elfyn
10. Bocs Siocled (Siop Iwan) Ceri Davies
11. Botel Win- (Ieu) Rhian Williams
12. Botel Win (Gwenlli) Sion Griffiths


Golff Ysgol Pendalar Golf 2007

Dydd Sadwrn : Gorffennaf 14
Clwb Golff St Deiniol
7.10-4.20
Bangor
Gwesteion yn cynnwys (wedi cadarnhau);
Gareth Roberts; Huw Llywelyn Davies; Dewi Pws; Bryn Fôn ; Emyr ‘Himyrs’ Roberts; Stuart Cable; Emyr Wyn; Arwel Jones; Rhys Ap Wiliam; Bryn Terfel TBC
Aelodau : £8 (cynnwys bwyd & adloniant nos)
Eraill : £15 (cynnwys bwyd & adloniant nos)
Timau o 4
3 best Stableford scores to count
Handicap Llawn
Tî’s Gwyn Limit 18

Arian i gyd tuag at Ysgol Pendalar
Diolch am gefnogi


Anwen Owen yn cyflwyno siec am £500 at Apel Pendalar er cof am ei mhab Cemlyn Llyr Owen, i Deiniol Vaughan Jones a Ieuan Roberts.

 

 

 



Lluniau Bryn Terfel yn tynnu raffl ar gyfer pel rygbi wedi ei arwyddo gan dim Cymru.
Syniad Ian Roberts o Ffrwd Cae Du oedd rafflo'r bel er mwyn codi £475 ar gyfer Apel Pendalar.
Rhoddwyd y bel iddo gan Garej Gwalia, Caeathro. Yr enillydd oedd Suki o Lees Takeaway, Caernarfon.

Gobby o Lee's Takeaway, Caernarfon, enillydd raffl y bel rygbi, a drefnwyd gan Ian Roberts o Ffrwd Cae Du.

 

 


Debbie, Laura a Seren o Ysgol Friars sydd wedi hel £300 ar gyfer offer electroneg ar gyfer dosbarth chwaer Seren trwy wahanol weithgareddau noddi. Diolch yn fawr iawn genod.

 


Nostalgia 3

Dafydd Du gyflwynodd...

Anrhefn a ffrindia
Heather Jones
Cyffro
Gwyneth Glyn

Galeri Caernarfon 10/03/07
Noddwyr; Dafydd Hardy a'i Gwmni

Er mai dim ond 70 oedd yn y gynulleidfa cafwyd y naws a'r awyrgylch arferol o gwmpas Galeri. Gwir dweud bod mwyafrif helaeth y cynulleidfaoedd Nostalgia cynt yn yr Eidal yn ceisio mwynhau y rygbi. Serch hynny, braf oedd gweld Cyffro yn ôl ar lwyfan yn y dre' ac mi oedd y grwp a'r sain wedi aeddfedu a phawb wedi mwynhau eu set yn arw. Fe ddywedodd Gwyneth Glyn nad oedd hi'n ddigon hen i ganu yn noson Nostalgia ond bod ei chaneuon yn llawn nostalgia felly digon têg i bawb gael clywed y llais unigryw yma yn llawn sentiment yn crefu am ddyddiau gwell! Doedd neb yn gwybod beth i ddisgwyl gan Rhys Mwyn a'i grwp Anrhefn ond cafwyd set 'acoustic' wych gan grwp o gerddorion gyda 3 ohonynt yn eistedd i lawr!! Daeth Dafydd Du ymlaen unwaith eto i gyflwyno'r 'legend' ei hun sef Heather Jones a phawb yn cael cyfle i wrando ar hen ffefrynnau ynghyd a straeon difyr o'i gyrfa! Diolch i bawb am gymeryd rhan ac am roi eu hamser yn rhad ac am ddim. Diolch arbennig i Daf Du am ddal y noson gyda'i gilydd yn ei ddull cwl ond hollol broffesiynol arferol ac i griw technegol Galeri ac i'r noddwyr, Dafydd Hardy a'i gwmni. Gobeithir codi tua £500 tuag at Apêl Pendalar.


Diolch i griw Cefnogwyr Clwb Pel Droed Caernarfon Town (Jim, Dylan, Ivy, Anwen, Tom, Nicola, & Linda) am drefnu taith gerdded dros Y Pasg ac am hel £760 at yr Apel- dim y tro cyntaf mae'r criw yma wedi helpu'r ysgol. Diolch yn fawr.


Llun Ieuan Roberts ac un o'r disgyblion yn derbyn siec am £355 at Apel Pendalar gan Ann Hughes ac Anita Jones o'r Asiantaeth Amgylchfyd. Diolch yn fawr.

 

 


Criw o fyfyrwyr o Goleg Menai Bangor gyda eu tiwtor Bob Hughes a gododd £180 at Apel Pendalar drwy gynnal daith gerdded noddedig ar hyd Lon Eifion yn ddiweddar. Diolch o galon.

 

 


Diolch i'r plant yma o Ysgol Gynradd Rhostryfan am chwarae'r ffliwt tu allan i Tesco Caernarfon dros y gwyliau Nadolig i gasglu arian i Ysgol Pendalar.

 

 


Cliciwch yma i weld lluniau o Stondin gacennau a drefnwyd gan un o rieni'r ysgol a'i ffrindiau, sef Heather Williams o Lanfaglan. Diolch o galon iddi am feddwl am yr ysgol a bod mor gefnogol bob amser. Codwyd £555 tuag at yr Apel.


Apêl Pendalar - Milltir ychwanegol

Mae Haf Thomas, cyn ddisgybl Ysgol Pendalar, yn parhau ei hymgyrch codi arian at elusennau lleol drwy helpu ei hen ysgol i godi arian tuag at Apêl Pendalar.

Mae Haf wedi nofio 64 hyd (1 milltir heb stopio!) o bwll nofio Canolfan Hamdden Arfon ar Nos Fawrth Rhagfyr 5ed rhwng 7 ac 8 o’r gloch ac wedi mwynhau gweld nifer o gyn ddisgyblion a staff; staff presennol a llu o ffrindiau a chymdogion yn ei chefnogi. Mae’n edrych yn debyg bod Haf wedi hel swm o arian teilwng iawn er nad ydi hi’n gwybod yn union faint eto.

Diolch o galon i ti Haf. Chwarae teg i ti gefnogi dy hen ysgol wrth fynd y filltir ychwanegol.

Haf Thomas yn derbyn 'hwre' fawr yn y gwasanaeth fore Dydd Iau.

P(r)eis Pendalar!

Bu dadlau ffyrnig rhwng pedwar o selogion tafarn y Fic yn y Felinheli, sef; Huw ‘ate all the pies’ Wirion; Bob ‘Sweety Pie’ Sweet; Barry ‘never made a pie’ Beynon; a Ricky ‘Mam made my pie’ Williams; ynglyn â pha un ohonynt oedd yn gallu coginio’r ‘steak and ale’ pei orau.

Nos Wener diwethaf yn nhafarn y Vic, Y Felinheli peiliodd nifer o gwsmeriaid i mewn i benderfynu pwy oedd pe(i)ncampwr y pei.

Wedi sawl peint a chyfle i flasu gwelwyd mai Bob ‘Sweety Pie’ Sweet oedd yn fuddugol ond yr enillwyr ar y noson oedd Apêl Ysgol Pendalar a phennaeth yr Ysgol yn derbyn siec am £500 ar ddiwedd y noson gan y tafarnwr poblogaidd Al ‘Wern’ Williams.

Bob Sweet (Sweety Pie) ydi'r enillydd.
Wedyn yn yr ail lun, o'r chwith; Ricky Williams; Bob Sweet; Huw 'Wirion' Roberts a Barry Baynham.

GLYNLLIFON 2006
(Gyda Gerallt Pennant BBC/S4C)


Dydd Gwener 27/10/06

Y disgyblion wedi cael blasu diwrnod go iawn o Hydref. Glaw trwm trwy gydol y daith bron!

Mae’n edrych yn debyg y byddwn wedi codi dros £1000 at yr Apêl. Llongyfarchiadau i Lee Royle o Gaernarfon sydd wedi hel dros £350 ar gyfer y daith gerdded ac am feddwl am y syniad o gael taith gerdded. Mae Dad Lee (Paul) wedi sicrhau £300 ychwanegol drwy ‘match funding’ gan gwmni Scottish Power.

Mae’r Apêl bron wedi cyrraedd £200,000 erbyn hyn ond bydd angen £300,000 arall os ydym am gyrraedd y nôd o £1/2m!! ond mae gennym flwyddyn i fynd ac efallai bod yna rieni eraill eisiau meddwl am syniadau i godi arian tuag at yr Apêl gan fod pob plentyn yn yr ysgol yn mynd i allu mwynhau yr offer newydd yn yr ysgol newydd.

Diolch o galon i Gwynedd Roberts o Barc Glynllifon am ei groeso a'i amser ac am ddiod oren i bawb ar ddiwedd y daith! a diolch i Gerallt Pennant am ddod a bywyd y goedwig yn fyw i ddisgyblion Pendalar. Diolch o galon i gwmni bysus Express am roi bws ar gyfer cludo’r disgyblion o’r Ysgol i Glynllifon ac yn ôl erbyn amser cinio!

cliciwch yma i weld lluniau or diwrnod.


Bidio a Bwyta Dros Bendalar

(Noson o wledda ac ocsiwnia ar gyfer Apêl Pendalar)
NOS SADWRN MAWRTH 4ydd 2006

STIWDIO BARCUD

  • Ocsiwniâr- Iestyn Garlick (Dewi Pws yn cynorthwyo)
  • Eitem gerddorol gan Elinor Bennett ar gychwyn y noson
  • Bwyd wedi ei baratoi gan ‘Pryd i Bawb’
  • Gwinoedd a bar wedi ei drefnu gan ‘Digwyddiadau MP Events’ a Chadeirydd a Chyfarwyddwyr CPD Porthmadog
  • Noddwyd y noson gan adeiladwyr yr ysgol newydd; Cwmni R.L.Davies.
cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo


Diolch


Diolch i Ken Owen a chriw Cefnogwyr CPD Caernarfon Town am godi £460 at yr Apel mewn cystadleuaeth golff yng Nglwb Golff Caernarfon 18-09-05. Enillwyr Maldwyn Lloyd & tim.



Lliwiau

Diolch o galon i Dewi Jones am ei waith bendigedig yn trefnu'r Ocsiwn Nos Wener yn Oriel Mon.
Diolch i'r artistiaid i gyd am eu haelioni, i staff Oriel Mon a Morgan Evans ( a Simon Bower) ac i bawb am ddod draw i gefnogi'r noson. Diolch arbennig i bawb ddaru brynu darlun! Dim ond un o staff yr ysgol a oedd a digon o fodd i brynu llun ac nid y pennaeth oedd y person yna!


Pedlo Pendalar

 

 
          

Wedi hel £2500 yn barod a phobl yn dal i hel. Diolch i bawb sydd wedi noddi y reidwyr.

Dyma'r criw sydd wedi reidio eleni o dan arweiniad gwych Dafydd Charles (diolch arbennig iddo fo!)

Iddon Alaw, Gwion Tegid, Lois, Dewi Pws, Ruth, Idris a Mabon, Heledd a Sarah
Lloyd o Rownd a Rownd.

Llinos, Kath, Eirwyn, Huw Idris, Harvey, Owain a Hywel Davies o Glwb Beicio
Cefni

Alun Ffred, Himyrs, Ifan Emyr, Rhys Parry, Gwyndaf Jones, Phil Hughes, Gareth Angel, Graham Evans, Islwyn Bonc, Rhian Davies (cyn Bennaeth Ysgol Hafod Lon), Cled (Taid Gareth Wyn), Steven Davies, Iolo a Iwan Davies, Iwan Morris, Dewi a Margaret Jones, Ieu.

Diolch hefyd i Eurwen a Pauline a Gareth a Lowri a Ceri a Gwenlli am gefnogi
gyda'r bws a cheir!

Diolch i Bryn a Nesta a diolch arbennig i Sharon yn Y Garddfon am y
brechdannau a'r chips ar ddiwedd y daith. Magic!

Diolch hefyd i'r Faenol Cyf. am eu cydweithrediad.

       


Golff Ysgol Pendalar 2005

Clwb Golff St Deiniol, Bangor

Chwaraeodd 245 o olffwyr yn y gystadleuaeth ar ddiwrnod bendigedig o Haf

Cliciwch ar lyniau y diwrnod i'w chwyddo:-

Llun y capten Dr Donald Wayte hefo Len Williams (Len L & R) enillydd Nearest the Hole 17th.
Llun y tim buddugol Gwestai, Y capten gyda Emlyn Thomas, Gareth (J.O) Roberts, Merfyn Price Jones (Rownd a Rownd)a Myfyr Isaac
Dyn pwysig iawn hefo'r Cyn Bennaeth a Boi arall!
Mr Starter Paul Roberts yn croesawu Myfyr Isaac.....a Bryn Fon ac Emyr Wyn yn posio eto!
Pwy ydi'r dyn pwysig yma hefo Gwyn Hughes Jones?
Enillwyr y diwrnod A. Jones, L.Williams a P. Hennessey hefo'r Capten.
Pam fod Dafydd Hardy yn gwenu? Wedi gwerthu ty arall? neu ydio'n falch bod y rownd drosodd am ei fod wedi anghofio ei sigars yn y car!

Enillwyr; Len Williams, Peter Hennessey, A. Jones and Nick Murray-Williams.
Enillydd Ieuenctid oedd Dylan Hughes
Merched; Mari, Ruth, Menna, Lesley
Gwesteion; Gareth Roberts, Myfyr Isaac, Merfyn P. Jones & Emlyn Thomas
Nearest the Pin; Len Williams (Len L & R)
Longest Drive; Stephen Bird

LLONGYFARCHIADAU MAWR I TECS! Hole in One- (on the 4th- D. Tecs Davies)

Diolchiadau
Diolch o galon i ; Many thanks to;

Noddwyr / Sponsors ( Nant Cyf; CDH ; Robat Parry (buggies) Pwllheli)
Swyddogion ac Aelodau Clwb Golff St Deinol
Paul Roberts (official starter)
Viv Williams
Dave & Bar Staff
John Harries
Ground Staff
Anna Roberts a'r genod i gyd (ac Osian Emyr)
Ceri Davies a'r genod ar y raffl
Celebs/gwesteion i gyd
(diolch arbennig i / special thanks to;)
Aelodau Clwb Golff St Deiniol/ Members of St Deiniol Golf Club
Dylan a Neil (a Bob)

Arian i gyd ddim i mewn eto ond disgwyl gwneud £4000.

Cliciwch yma i weld canlyniadau llawn.

Cliciwch yma i weld canlyniadau cystadleuaeth y 'Weakest Link'


RYGBI

Mrs Ellis, gwraig Tony Ellis yn derbyn y bel rygbi er cof am cyn ddisgybl Keith Jones.

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo:-


Pedlo Pendalar 2005.
(Taith feics noddedig)

Dydd Sadwrn Awst 27ain 2005
(Diwrnod Gwyl Y Faenol)
(Taith tua 35 milltir)

Cychwyn tua 10.30 o'r Faenol (gan Bryn Terfel)
Trwy'r Marina, Y Felinheli
Lon Lâs Arfon i Gaernarfon
Trwy'r twnel at Lôn Eifion
I fyny at Bant Glas (diod oer a bisgedi gan Nesta Jôs)
Ac yn ôl i'r Faenol
(stop ger y Garddfon er mwyn reidio i mewn i'r parc gyda'n gilydd)

Mae lle i thua 40 o reidwyr eleni

Ffoniwch neu e-bostio Ieu os ydych yn dymuno dod ar y daith noddedig.

01286-672141 neu pennaeth@pendalar.gwynedd.sch.uk
Mobile- 07944 554 909

Bydd cyfle i chwi noddi y daith yn ein stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol.

Criw sydd yn reidio hyd yn hyn; Dewi Pws, Ruth Lloyd, Mari Emlyn, Heledd, Dafydd Charles (Rownd a Rownd), Islwyn Bonc, Emyr Himyrs Roberts, Gwyndaf Jones, Dewi a Margaret Jones (rhieni), Cled, Ieu.


Newyddion Apêl Pendalar
27/05/05
Mae swm yr Apel erbyn hyn yn £25,511. Mae £30,000 wedi ei warantu (heb ei fancio eto!) ac mae nifer o weithgareddau difyr ar y gweill.......gyda'r gobaith y byddwn yn codi dros £50,000 arall cyn diwedd y flwyddyn.


Ocsiwn

Crys wedi arwyddo gan Tîm Rygbi Cymru 1999

Pêl droed FA Cymru wedi arwyddo

Mae y ddau eitem uchod yn mynd i gael eu gwerthu mewn
ocsiwn ar ddiwrnod golff Pendalar ar Orffennaf 9ed.


Cyngerdd Apêl Pendalar, Nos Sadwrn Ebrill 16 am 7.00 Galeri, Caernarfon.
Noddwyr y noson: Dafydd Hardy

JOHN OGWEN yn cyflwyno

- GERAINT GRIFFITH
- LINDA HEALY
- TECWYN IFAN
- HOGIA'R WYDDFA
- EDWARD H

Roedd Theatr Galeri yn llawn dop Nos Sadwrn a phawb wedi gwirioni ar glywed yr 'hen stejars' yn perfformio fel petaent erioed wedi rhoi'r gorau iddi. Roedd fel troi'r cloc yn ôl 20 mlynedd a throsodd a byddai fod digon hawdd dychmygu eich bod yn yr hen Majestic neu neuadd arall o'r adeg honno!

Codwyd dros £3750 at Apêl Ysgol Pendalar, sydd yn anelu at godi £½m i archebu adnoddau, dodrefn ac offer technolegol angenrheidiol ar gyfer yr ysgol newydd a fydd yn barod ar gyfer Nadolig 2006.

Diolch o galon i'r artistiaid i gyd am berfformio yn ddi-dâl er mwyn sicrhau elw teilwng i'r ysgol ac i'r noddwyr, Dafydd Hardy a'i Gwmni.

Ieuan Roberts (Pennaeth Ysgol Pendalar)

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo

 


Cyfanswm yr arian a godwyd at Apel plant mewn Angen £168.22 (Children in Need)

Cyfanswm Diwrnod Trwyn Coch £160.60 (Red Nose Day)
Diolch i bawb am gyfrannu.


Newyddion Apêl Pendalar
1. Pedlo Pendalar wedi hel £2899 erbyn Dydd Mercher 29ain o Fedi ac yn rhoi ‘kick start’ i’r Apêl! (O leiaf £1120 i ddod i mewn eto.)
2. Apêl wedi ei lansio yn Y Faenol 27ain o Awst gyda Bryn Terfel a Dafydd Wigley. Nôd ydi codi £½m ar gyfer adnoddau a dodrefnnu’r ysgol newydd.
3. Mae Apêl Pendalar yn gwneud cais i fynd yn Gwmni Cyfyngedig Dielw ac i gofrestru fel elusen mor fuan â phosibl. Ni fydd y cwmni yn is-bwyllgor o Ffrindiau Pendalar.
4. Mae rhestr faith o ddigwyddiadau ar gyfer yr Apêl a’r Herald yn rhoi sylw helaeth i’r ymgyrch.


Apêl Ysgol Pendalar
Rhestr Gweithgareddau 2004/2005 - Cliciwch yma

Mae £4m wedi ei osod ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd a gosod pob dim a fydd yn sownd e.e cypyrddau, silffoedd, pwll hydrotherapy etc. ond bydd angen £½m i gael offer ‘symudol’ fel cadeiriau, byrddau, cyfrifiaduron, hoists, pob offer arbennig, offer sain a goleuadau ar gyfer y pwll. Yr ydym wedi gwneud arolwg weddol fanwl o gostau rhai o adnoddau a fydd angen mewn rhai o’r ystafelloedd dysgu arbennig ac mae rhestr o anghenion eraill hefyd.


Pedlo Pendalar 2004 - Dydd Sadwrn Medi 11ed
I gychwyn yr Apêl:-

Diolch i Beics Menai Cycles - www.beicsmenai.co.uk


Sopna Pontrug

Diolch yn fawr iawn i staff Sopna, Pontrug am gynnal noson Nos Iau diwethaf i godi arian tuag at Apel Pendalar. Roedd hanner y 'takings' a chyflogau'r staff am y noson yn mynd tuag at yr apel.
01/11/04


Datganiad i'r wasg ynglyn â Golff 2004:

Golf 2004

230 golfers turned out to play golf at Bangor’s St Deiniol Golf Club on Saturday July 10th. One guest had travelled from London to play, one flew in from Alicante and several others from South Wales. All had one aim in mind, to raise money for Ysgol Pendalar, Caernarfon.

By the end of a long day £2700 had been raised for the school funds.

Winners of the annual event were; Alwyn Williams and Henry Aston along with father and son Ron Evans & Dylan Evans who later in the day had to leave after the presentation due to Dylan becoming a father to a baby girl.

Quote from organiser Mr Ieuan Roberts;

"I never cease to be amazed at what happens during these golf days…..the sheet with the tee-times was filled in a week or so of it being up in the clubhouse and the officials at St Deiniol are so helpful. Stars from S4C who had travelled from South Wales along with opera singer Gwyn Hughes Jones, played a round of golf in the afternoon and still found time to return for the evening’s entertainment, some even provided the entertainment in a truly impromptu noson lawen.

I got home at 1.00 a.m and switched on the 24 hour news channel and saw that Sport Relief had raised over £12m in about 5 hours and I felt deflated until the morning when I recalled the genuine fun and happiness that was associated with our unique golf day, once again."

Diolch
Diolch unwaith eto i gwmni Nant Cyf. am noddi'r achlysur unwaith eto.


Datganiad i'r wasg ynglyn â'r Apêl Pendalar (Mae'r pwyllgor apel yn is-bwyllgor dros dro i Ffrindiau Pendalar.)

Llywyddion Anrhydeddus: Bryn Terfel & Dafydd Wigley
Cadeirydd: Evan Jones
Ysgrifennydd: Ieuan Roberts
Trysorydd: Kate Jones
Gwefan: www.ysgolpendalar.org

Dydd Gwener 27ain o Awst 2004 am 11.15 a.m

Ystafell 'White and Gold' Plasdy'r Faenol

Lansiad apêl £½m ar gyfer Ysgol Arbennig Pendalar, Caernarfon yng nghwmni Bryn Terfel a Dafydd Wigley.


Ocsiwn Lluniau Apel Ysgol Pendalar

1. Cyfanswm o £22345 wedi ei godi ar y noson.( Mwy o Liw) 2. 52 o luniau wedi eu gwerthu ar y noson,(46 gwreiddiol a 6 phrint)
3.110 o luniau wedi eu gwerthu dros gyfnod y ddau Ocsiwn lluniau.
4.Cyfanswm elw clir i’r ysgol o’r ddau Ocsiwn (Lliwiau & Mwy o Liw)yn £60313.
5.Diolch yn fawr iawn i Simon Bower a Helen Pritchard a staff Cwmni Morgan Evans.
6.Diolch i Alun Gruffydd a holl staff Oriel Ynys Mon am ei caredigrwydd dros gyfnod y ddwy Ocsiwn.
7.Diolch i’r holl artistiaid am gyfrannu’n hael dros gyfnod y ddwy Ocsiwn.
8. Diolch i Dewi Jones am drefnu'r 2il ocsiwn mewn blwyddyn! 9.Diolch i Dafydd Wigley am gyflwyno'r diolchiadau.
10. Ocsiwn 3 ???????? angen rhywun i roi seibiant i Dewi y flwyddyn nesaf!


Pel droedwyr yn golffio i Apêl Pendalar

Daeth tua 70 o bel-droedwyr a chyn-beldroedwyr i newid eu hesgidiau ‘ffwt’ am glybiau golff ar Ddydd Sul Hydref 1af a hynny i godi arian at Apêl Ysgol Pendalar. Codwyd bron i £800 ar gyfer yr Apêl mewn prynhawn o chwarae golff mewn cymysgedd o heulwen braf a chyfnodau o law trwm iawn.

Fel ddywedodd y trefnydd Ken Owen wrth gyflwyno’r gwobrau gyda’r nos ‘Dim ond un enillydd oedd ar y diwrnod ac Ysgol Pendalar ydi hwnnw!’
Cafodd Ken ddiwrnod llwyddiannus iawn ei hun wrth iddo daro’r dreif hiraf ar y 18ed twll a bod yr agosaf i’r twll ar yr 8ed!!

Enillwyr y diwrnod oedd Georgie Denham a’i dîm; Keith Williams; Gari Ellis a Kelvin Williams. (Cyflwynodd Georgie £50 i bennaeth yr ysgol yn ystod y noson yn dilyn gêm bel droed rhwng C’fon Town a C’fon Boro er na chawsom wybod pwy oedd wedi curo’r gêm!)

Diolch o galon i’r trefnwyr; Ken Owen, Maldwyn Lloyd, Idwal Roberts; David ac Allan (Stone) Jones ac i Glwb Golff Caernarfon a’u capten Vernon Evans am eu croeso caredig ac am gyflwyno’r gwobrau a’r arian i bennaeth yr ysgol yn ystod y gwobrwyo.


Pedlo Pendalar 2006
(Taith feics noddedig)

Dydd Sadwrn Medi 9ed 2006

9.30 Cyrraedd Halfway, Felinheli. Cychwyn tua 10.00 o’r Halfway Trwy’r pentref; Lon Lâs Arfon i Gaernarfon; Trwy’r twnel at Lôn Eifion; i fyny at Bryncir & yn ôl i’r Felinheli. (Taith tua 35 milltir)

Reidwyr

Dafydd Charles
Dewi Pws
Himyrs (Emyr Roberts)
Cled Thomas
Steven Davies
Sion Griffiths
Bonc (Islwyn Owen)
Gwyndaf Jones
Teleri Jones
Kevin Hughes (Banc Barclays)
Dewi Jones
Margaret Jones
Alan Williams & Catrin
Glyn Jones, Sian, Marc, Anna
Phil Hughes
Gareth Williams
Deiniol Jones
Parch Hywel Davies
Bryn Terfel & Tomos & Deio

Criw Rownd a Rownd; Heledd,,Gwion Tegid, Emyr Gibson, Rhydian , Gruffydd , Lara, Lowri Grug, Morfydd
Staff Pendalar;,Alwen, Ger, Sara, Gwenlli, Helga, Sharon, Myfanwy ( a Lois), Ieu

Dreifars
Bws Variety- Eurwen
Vannette- Pauline

cliciwch yma i weld lluniau o'r diwrnod

Bryn Terfel yn cyrraedd Penygroes yn Pedlo Pendalar!
Emyr Gibson (Meical yn Rownd a Rownd) yn reidio yn Pedlo Pendalar

Bryn yn dod i ddeud helo wrth griw Pendalar a oedd yn hel yn y Faenol (Noson Shirley Bassey)
Cafwyd dros £1000. Diolch i bawb am helpu.


Pop Pendalar
(gig i’r ifanc)

Nos Sadwrn , Mis Medi 23ain
Galeri Caernarfon
Cyflwynwr- Dylan Wyn, Radio Cymru

cliciwch yma i weld lluniau'r noson

Adolygiad athrawes newydd Ysgol Pendalar Awen Davies-Jones o'r noson Pop Pendalar yn Galeri Nos Sadwrn Medi 23ain.Gyda diolch i Principality am noddi'r noson.

Llongyfarchiadau i Sarah Wynn o Fethel am drefnu gig Pop Pendalar 2006 a gynhaliwyd yn Galeri nos Sadwrn diwethaf. Profodd Galeri i fod yn fan delfrydol, a bu’r noson yn llwyddiant arbennig, gyda dros 200 o bobl yn y gynulleidfa. Bu ystod eang o artistiaid gwahanol yn perfformio gyda XMS3 yn agor y noson. Cawsom hwyl yng nghwmni’r Zoo Technics, yn enwedig y gân “Pictionary, dictionary”! Wedyn, cawsom ein diddanu gan y gantores ddawnus o Gaernarfon - Sarah Louise. Ar ôl toriad byr, daeth Gola Ola ar y llwyfan, band hynod dalentog o Borthmadog - gwyliwch allan am ‘rhain! Erbyn hyn, roedd y gynulleidfa ifanc ar eu traed yn dawnsio, yn enwedig yn swn cerddoriaeth dawns Sarah Wynn. I gloi’r noson, cawsom wledd o ganeuon poblogaidd Mim Twm Llai, gyda phawb - (hyd yn oed Mr Roberts!) yn canu “Wban Crw”! Diolch i Sarah Wynn, yr artistiaid, a phawb arall a roddodd yn hael o’u hamser ac egni ar gyfer Pendalar.
Noson wych! – edrych ‘mlaen am Pop Pendalar 2007.


'MWY O LIW'

Ocsiwn o luniau gwreiddiol a phrintiadau artistiaid o Gymru

Nos Wener – 6 Hydref, 2006 am 7.30 yr hwyr
yn ORIEL MÔN, LLANGEFNI
Holl elw’r noson tuag at Apêl Ysgol Newydd Pendalar, Caernarfon
cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cliciwch yma i weld y lluniau.


Golff Ysgol Pendalar 2006

Dydd Sadwrn Gorffennaf 8ed 2006
Clwb Golff St Deiniol, Bangor
7.00-4.30

Lluniau'r Diwrnod - cliciwch yma

Daeth 240 o olffwyr i gystadlu yn 10ed cystadleuaeth Golff Ysgol Arbennig Pendalar mewn tywydd a oedd yn gwaethygu yn raddol wedi amser cinio. Gwir dweud bod llawer o’r rhai oedd yn chwarae yn y prynhawn yn wlyb at y croen ond serch hynny codwyd £3000 tuag at Apêl Pendalar.

Diolchodd Ieuan Roberts y trefnydd i restr hir o bobl a oedd yn gyfrifol am lwyddiant y gystadleuaeth unwaith eto; Noddwyr Nant; CDH a Beresford Adams; Anna Roberts a’r genod am y bwyd;Staff yr Ysgol a rhieni am werthu raffl drwy y dydd; y gwesteion rhai wedi teithio o’r De i chwarae (Teithiodd Dewi Pws yn unswydd i chwarae yn y gystadleuaeth a chwaraeodd Bryn Fôn yn gynnar yn y pnawn a theithio i Rydaman i ganu gyda’r nos ); Viv Williams (a Gareth) siop y Pro; Robert Parry GNH Golf Carts; Starter Paul Roberts; swyddogion ac aelodau Clwb Golff St Deiniol; Capten y Clwb Colin Hughes; R.Bryn Jonesy sgoriwr; Sian a Paul a staff y bar.


Prif enillwyr; Conrad Davies; Dafydd Morris; Steve Morris; D. Owen (121 pts)

Enillydd Ieuenctid; Rhys Parry (37pts)

Gwesteion; Pete Jones; Geraint Evans; Rhys Ap William; Ieuan Roberts (103 pts)

Agosaf i’ Twll; Mark Owen

Dreif Hiraf; Dylan Evans

9 twll cyntaf- Trevor Jones; Kash Josson; Don Wayte; Ian Hughes (56 pts)

9 twll olaf- Dylan Evans; Ron Evans; Alwyn Williams; Richard Lane. (64pts)

Llongyfarchiadau i Gwynedd Roberts (Glynllifon) Twll mewn 1- (ar yr 8ed)

Cystadleuaeth ‘Weakest Link’ Golff Pendalar 2006

Tîm 1- Geraint Evans 24 pwynt

Tîm 2- Iestyn Garlick 21 pwynt

Tîm 3-Mike Humphreys - 20 pwynt

Tîm 4- Gareth Roberts- 20 pwynt

Tîm 5- Malcolm Allen 19 pwynt

Tîm 6- Steve Pritchard 13 pwynt

Tîm 7- Himyrs 11 pwynt

Yr ‘enillydd’ eleni ydi ;

HIMYRS

Canlyniadau raffl pendalar 2006

 

Dylunwyd gan:
delwedd.co.uk
Gwybodaeth Cyswllt