Hafan > Dosbarthiadau > Dinorwig
Dinorwig
Mae Dosbarth Dinorwig yn rhan o'r Llwybr Ar Waith sydd wedi ei gynllunio fel mynediad at gwricwlwm mwy ffurfiol, wedi’i seilio ar y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru. Prif amcan y llwybr yw cynnig dull cyfannol, cynhwysol a gwahaniaethol sy’n meithrin datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol, tra’n hybu annibyniaeth ac yn paratoi disgyblion ar gyfer bywyd ar ôl ysgol. Mae’r llwybr yn cefnogi datblygiad sgiliau ymarferol ac yn pwysleisio dull dysgu unigol i ddiwallu anghenion amrywiol pob dysgwr.
Mae’r cwricwlwm wedi’i wahaniaethu i sicrhau bod disgyblion yn cael profiad addas ac effeithiol. Er mwyn ymateb i anghenion dysgu unigol, defnyddir dulliau strwythuredig a hyblyg gyda chyfuniad o wersi ffurfiol â gweithgareddau dysgu archwiliol.
Mae’r disgyblion ar y llwybr hwn yn gweithio ar neu’n agos i Gam Cynnydd 1 o’r Cwricwlwm i Gymru.
Miss Heddus Gwynedd yw'r athrawes ddosbarth ac mae ganddi dair o gymhorthyddion dosbarth: Beti Pierce, Niah Thomas ac aprentis Oliver Hughes.