Hafan > Dosbarthiadau > Segontiwm

Segontiwm



Mae Dosbarth Segontiwm yn rhan o'r Llwybr ‘Ar Daith’ sydd wedi ei gynllunio ar gyfer disgyblion ag ystod eang o anghenion synhwyraidd sy’n parhau i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.  Mae’r disgyblion ‘Ar Daith’ yn dechrau dilyn cwricwlwm lled ffurfiol.  Mae’r disgyblion yn gweithio ar Gamau B i C a tuag at Datblygiad Cam 1 yn y cwricwlwm, ac yna’n symud ymlaen o Blank Level 1 tuag at Blank Level 2 yn y Model Dysgu Iaith.  

Pwysleisir yn y Llwybr Ar Daith mai’r dysgwr sydd yn ganolog.  Darperir amgylchedd cyfoethog ac ysgogol i feithrin chwilfrydedd ac i annog disgyblion i archwilio a mwynhau’r byd o’u cwmpas.  Mae’r Llwybr hwn yn cefnogi ymgysylltu mewn cyd-destunau dysgu perthnasol, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu, gallu cymdeithasol a dealltwriaeth o’r byd. 

Mrs Megan Williams yw'r athrawes ddosbarth ac mae ganddi pedair o gymhorthyddion dosbarth: Jen Evans, Ceri Lewis, Tracey Thomas-Eynon a Siriol Clow