Grant Taith
Braf yw rhannu gyda chi fod Ysgol Pendalar wedi bod yn lwyddiannus i ennill swm o arian grant trwy 'Taith'. Mae Taith yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc a staff ym mhob math o leoliad addysg deithio dramor i ddysgu, yn ogystal â chaniatáu i sefydliadau wahodd eu partneriaid rhyngwladol i ddod i ymweld â Chymru. Am fwy o wybodaeth cliciwch YMA.
Hyd yma mae disgyblion Llwybr Galwedigaethol yr Ysgol wedi bod am noson i Lerpwl ym mis Hydref 2024 ac am ddwy noson i Lundain ym mis Chwefror 2025.
Taith Lerpwl - Rhagfyr 2024 (linc i'r fidio)
Cafodd rai o ddisgyblion hyn yr ysgol eu blas cyntaf o deithio fel rhan o brosiect Taith Pendalar i Lerpwl am noson cyn gwyliau'r Nadolig. Teithiodd y grŵp ar y bws mini o'r ysgol yn fuan yn y bore gan gyrraedd Lerpwl i ymweld gyda Stadiwm Anfield. Waw! Am brofiad i gychwyn y daith.
Aeth y grŵp i grwydro Lerpwl ac i ymweld â'r Amgueddfa, cyn mynd am hwyl i'r Ffair Nadolig gyda'r nos. Dyma oedd y noson gyntaf i amryw o'r disgyblion fod oddi cartref - ac roedd pawb wedi mwynhau yn arw!
Roedd ychydig o amser i siopa Nadolig cyn mynd yn ôl am adra ar y bws wedi blino'n lân ar ôl antur a hanner! Diolch o galon i'r holl staff ac i'r disgyblion am sicrhau taith gychwynol fythgofiadwy! Pwy sy'n barod am y nesa?.......