Hafan > Newyddion > Trip 'Taith' i Lundain 2025
Trip 'Taith' i Lundain 2025
Taith Llundain - Chwefror 2025
Waw! Am brofiad oedd ein ail daith - cam arall ar ein antur anhygoel wrth agor drysau'r byd.
Llundain 2025 - profiad anhygoel fydd yn aros yn ein cof am byth!
Teithio ar y trên o Fangor oedd y profiad cyntaf tro yma. Roedd hyn yn brofiad newydd i'r rhan fwyaf o'r disgyblion a chafodd bawb amser braf yn gweld y wlad yn pasio wrth chwarae gemau a chael hwyl hefo ffrindiau.
Mynd i Madame Tussauds a gweld yr holl bobl enwog oedd hwyl cyntaf y daith i Llundain - cyn mynd i'r gwesty am y noson gyntaf.
Bu pawb yn ddewr iawn ar ôl noson o gŵsg wrth fynd i fyny yn uchel, uchel iawn ar y London Eye! Profiad gwych yn gweld Prifddinas mor fawr wrth ein traed.
Roedd y daith ar y Thames yn agoriad llygaid wrth weld yr adeiladau enfawr! Yna daeth uchafbwynt y daith i nifer iawn o'r disgyblion - mynd i weld Sioe 'The Lion King' yn y West End! Roedd llawer yn eu dagrau (yn cynnwys y staff!) "Y Sioe ora erioed" medda un disgybl.
Noson arall o hwyl a sbri, cyn mynd i ymweld â Sea Life London, cinio bach sydyn yng nghanol y brifddinas cyn mynd ôl am adra yn dilyn antur arall bythgofiadwy!
Allwn ni ddim diolch ddigon i gyllid 'Taith' am sicrhau fod hyn yn bosib. Antur sydd yn datblygu hyder y disgyblion wrth agor drysau'r byd! Lle awni nesa tybed?
(llunia a fidio i ddilyn)