Hafan > Dosbarthiadau > Wyddfa

Wyddfa



Mae disgyblion Dosbarth Wyddfa yn rhan o Lwybrau 14-19.  Er mwyn sicrhau profiad sy’n diwallu anghenion unigol pob disgybl, mae dau Lwybr dysgu wedi’u sefydlu.  Mae disgyblion yn gallu dewis un Llwybr neu gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar eu hanghenion a’u dyheadau.  Wrth benderfynu ar y Llwybr mwyaf priodol, caiff llais y disgybl ei ystyried. 

Mae ein cwricwlwm Sgiliau Byw’n Annibynnol wedi’i ddylunio i gefnogi disgyblion ag anghenion cymhleth a synhwyraidd.  Ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn datblygu i fod mor annibynnol â phosibl.  Trwy feithrin hyder a’r gallu i wneud penderfyniadau hunan-ddewisedig, mae’r llwybr hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau bywyd ymarferol unigryw i bob disgybl.  Mae’r cwricwlwm wedi’i adeiladu ar feysydd hanfodol fel cyfathrebu, sgiliau byw sylfaenol, rhyngweithio cymdeithasol a symudedd.  Drwy’r dull hwn, rydym yn sicrhau bod disgyblion yn cael y cymorth a’r cyfleoedd sydd eu hangen i fyw bywyd llawn ac annibynnol. 

Mrs Lois Shaw-Evans yw'r athrawes ddosbarth ac mae ganddi pedwar o gymhorthyddion dosbarth:  Julie Morris, Eilir Jones, Thomas Roberts ac Elis Berry.