Hafan > Dosbarthiadau > Yr Aber

Yr Aber



Mae disgyblion Dosbarth Yr Aber yn rhan o Lwybrau 14-19.  Er mwyn sicrhau profiad sy’n diwallu anghenion unigol pob disgybl, mae dau Lwybr dysgu wedi’u sefydlu.  Mae disgyblion yn gallu dewis un Llwybr neu gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar eu hanghenion a’u dyheadau.  Wrth benderfynu ar y Llwybr mwyaf priodol, caiff llais y disgybl ei ystyried. 

Mae ein Cwricwlwm Galwedigaethol wedi’i gynllunio i gynnig cyfleoedd dysgu amrywiol ac ystyrlon sy’n cyd-fynd â dyheadau ac anghenion unigol pob disgybl.  Ei nod yw meithrin sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd, cyflogaeth a byw’n annibynnol.  Trwy ymagwedd gynhwysol, rydym wedi ymrwymo i baratoi disgyblion ar gyfer bywyd fel oedolion, a’u cefnogi i symud ymlaen i lwybrau newydd y tu hwnt i’r ysgol – boed hynny mewn addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. 

Miss Ceri Griffith yw'r athrawes ddosbarth ac mae ganddi dau o gymhorthyddion dosbarth:  Gruff Sion (Swyddog Cefnogi Cyflogaeth) a Sian Rees (0.6) / Alison Binfield (0.6).  Yn gweithio'n rhan o'r Llwybr yma yw Mr Tom Cockbill (Athro Galwedigaethol Ol 16).