Hafan > Dosbarthiadau > Pendalar Bach

Pendalar Bach



Mae'r Dosbarth Pendalar Bach yn uned ar safle Ysgol Maesincla.  Mae'n rhan o'r Llwybr Ar Antur.  Cynlluniwyd y Llwybr Ar Antur i ddisgyblion ieuengaf yr ysgol.  Ar y llwybr hwn, darperir amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol, sy’n galluogi disgyblion i weithio o fewn y fframwaith Routes for Learning a Chamau A yn y cwricwlwm.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn symud ymlaen tuag at Blank Lefel 1 Model Iaith a Dysgu.  

Trwy ddilyn cwricwlwm anffurfiol dan arweiniad y dysgwyr sicrheir bod pob disgybl yn ganolog i’w ddatblygiad ei hun.  Mae’r Llwybr Ar Antur yn canolbwyntio ar greu amgylchedd cefnogol a synhwyraidd sy’n meithrin ymgysylltiad, tra’n datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu. 

Miss Lora Thomas yw'r athrawes ddosbarth ac mae ganddi 3 o gymhorthyddion dosbarth, Sara Lacey, Lisa Bohana a Lily Rooney.