Hafan > Dosbarthiadau > Llyn
Llyn
Mae Dosbarth Llyn yn rhan o'r Llwybr Ar Antur. Cynlluniwyd y Llwybr Ar Antur i ddisgyblion ieuengaf yr ysgol. Ar y llwybr hwn, darperir amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol, sy’n galluogi disgyblion i weithio o fewn y fframwaith Routes for Learning a Chamau A yn y cwricwlwm. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn symud ymlaen tuag at Blank Lefel 1 Model Iaith a Dysgu.
Trwy ddilyn cwricwlwm anffurfiol dan arweiniad y dysgwyr sicrheir bod pob disgybl yn ganolog i’w ddatblygiad ei hun. Mae’r Llwybr Ar Antur yn canolbwyntio ar greu amgylchedd cefnogol a synhwyraidd sy’n meithrin ymgysylltiad, tra’n datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu.
Miss Rebecca Davies yw'r athrawes ddosbarth ac mae ganddi pedwar o gymhorthyddion dosbarth: Cim Thomas (0.6), Lily Rooney, Ffion Parry, Sophie Beales (0.6) ac aprentis Llyr Roberts.