Hafan > Newyddion > Trip 'Taith' i Ffrainc 2025
Trip 'Taith' i Ffrainc 2025
Taith i Ffrainc – Mehefin 2025
Roedd ein taith i Ffrainc ym Mehefin 2025 yn brofiad bythgofiadwy i bawb. Does dim digon o eiriau i ddisgrifio’r wefr a’r hwyl a gafwyd yn llawn! Roedd teithio dramor gyda’n gilydd am y tro cyntaf erioed yn brofiad a fydd yn aros yn y cof am byth – am lawer o resymau gwahanol.
Wrth deithio ar y bws i’r maes awyr, roedd pawb yn hynod gyffrous – ac ambell un braidd yn nerfus wrth gwrs – gan mai dyma’r tro cyntaf i nifer o’n disgyblion hedfan dramor, a hynny yng nghwmni eu ffrindiau a’r staff. Aeth popeth yn esmwyth ar ôl misoedd o drefnu a pharatoi, ac yna ffwrdd â ni i’r awyr las am y daith fer i Faes Awyr Charles de Gaulle, Paris. Casglu’r bagiau – ac ymlaen â ni i Les Villages Nature.
Roedd yr haul yn boeth wrth i ni gerdded drwy’r parc hyfryd i chwilio am ein tai. Dyma fyddai ein cartrefi am y pedair noson i ddod – ac yn wir, roedd popeth yn berffaith! Tai moethus gyda gerddi mawr a digon o le i fwyta a chymdeithasu gyda’n gilydd rhwng y tri thŷ enfawr.
Wrth gwrs, y weithgaredd gyntaf yn yr haul hyfryd oedd nofio yn y parc dŵr – Aqua Mundo. Dyma brofiad a hanner! Wrth i rai ohonom ymlacio yn y pwll tu allan yn edrych ar olygfa fendigedig y llyn mawr, roedd eraill yn chwilio am antur ar y sleidiau dŵr – rhai’n gyflym ac yn frawychus iawn! Roedd gwen ar wyneb pawb cyn mynd am swper a chael cyfle i ymlacio i wylio gêm bêl-droed Cymru – ar ôl diwrnod hir o deithio a mwynhau.
Diwrnod Paris
Dydd Mawrth oedd diwrnod y daith i’r brifddinas. Wedi taith fer drwy strydoedd hudolus Paris, taith gwch ar yr Afon Seine oedd nesaf. Unwaith eto, haul tanbaid a golygfa fendigedig o’r Twr Eiffel! Roedd pawb wedi syfrdanu gan ei faint a’i uchder – ac roedd disgyblion a staff Ysgol Pendalar o dan un o dirnodau enwocaf y byd! Taith gerdded fer o amgylch y ddinas cyn blasu hufen ia bendigedig La Pistacherie. Gwely amdani – gan fod diwrnod mawr o’n blaenau fory!
Helo Disney!
Ymweliad fythgofiadwy gafwyd ar y dydd Mercher. Ia wir, roedd criw Pendalar wedi dod i ddweud helo wrth bawb yn Disneyland a Disney Studios! Diwrnod hollol anhygoel – o’r lliwiau, synau, cerddoriaeth, reids yn y ffair, y sioeau – roedd popeth yn wefreiddiol! Roedd rhai o’n disgyblion dewr wedi mentro ar reids fel The Tower of Terror a Space Mountain! Eraill wrth eu bodd yn gwylio’r gorymdeithiau di-ri ac yn siopa am gofroddion unigryw o Disney. I goroni’r cyfan, cafwyd sioe oleuadau anhygoel ac emosiynol cyn mynd yn ôl am ein gwlâu. Diwrnod fydd yn aros yn y cof am byth!
Hwyl a Sbri
Ar gais y disgyblion, diwrnod arall yn y parc dŵr oedd y diwrnod olaf. Hwyl a sbri unwaith eto, cyn mwynhau ein swper noson olaf a gafodd ei baratoi rhwng pob tŷ. Digonedd o fwyd a sgwrsio wrth fwynhau cwmni ein gilydd. Wedyn, beth well i orffen y gwyliau na sesiwn carioci a disgo? Cyfle gwych i gyfarfod pobl eraill o wledydd gwahanol a rhannu ein hoff brofiadau.
Cyn troi am adra, cawsom damaid bach i fwyta yn y Creperie a gêm sydyn o fowlio. Yn wir, does dim digon o eiriau i egluro gwefr y daith anhygoel hon. Ond yng ngeiriau un disgybl:
“It really was the best week of my life. Thank you so much.”
Diolch
Heb y grant gan Taith, ni fyddai’n bosib trefnu profiadau mor anhygoel. Rydym yn teimlo’n ffodus iawn. Diolch o galon am ein galluogi i agor drysau’r byd i’n disgyblion, ac am roi cyfleoedd arbennig i ni fel staff gael mwynhau profiadau unigryw gyda nhw. Mae ein diolch yn fawr.