Hafan > Newyddion > Gwirfoddoli Cae Doctor Bangor
Gwirfoddoli Cae Doctor Bangor
Ar fore dydd Iau y 28ain o Dachwedd aeth rhai o ddisgyblion uwchradd Ysgol Pendalar i 'Cae Doctor Bangor' i wirfoddoli fel rhan o'u Gwobr Dug Caeredin. Cafodd y disgyblion gyfle i ddatblygu eu sgiliau garddio, cyfathrebu a chydweithio. Diolch i Elin ac i Jackie am y croeso cynnes. Braf oedd gweld brwdfrydedd a gwaith caled y disgyblion a braint oedd plannu coeden er cof am Rosie, un o drigolion Bangor. Mae'r disgyblion yn edrych ymlaen i gydweithio mwy yn y Flwyddyn Newydd.