Hafan > Newyddion > Agoriad 'Pod Pendalar'
Agoriad 'Pod Pendalar'
Cam Mawr tuag at Annibyniaeth
Mae Ysgol Pendalar wedi dathlu agoriad swyddogol 'Pod Pendalar' – cyfleuster newydd sydd wedi’i greu’n benodol ar gyfer disgyblion 14–19 oed yr ysgol. Mae’r pod yn cynnig amgylchedd cynnes a chartrefol lle gall disgyblion ymarfer a datblygu sgiliau byw yn annibynnol, megis coginio, rheoli arian, a threfnu bywyd pob dydd.
Yn ystod y digwyddiad agoriadol, croesawyd Swyddogion Addysg, Llywodraethwyr, a rhieni. Cafodd y gwesteion gyfle i gwrdd â’r disgyblion a chlywed ganddynt yn uniongyrchol am y profiadau cadarnhaol a’r sgiliau newydd maent wedi’u hennill.
Roedd y rhieni’n llawn canmoliaeth am y fenter newydd. Dywedodd un rhiant:
“Mae’r pod yn cynnig cyfle unigryw i’n plant ddysgu sgiliau bywyd mewn ffordd ymarferol a pherthnasol. Mae’n wych gweld faint mae nhw’n mwynhau ac yn elwa o’r profiad.”
Ychwanegodd rhiant arall:
“Mae’n galonogol gweld ein plant yn cael y cyfle i baratoi ar gyfer y dyfodol mewn amgylchedd mor gefnogol a diogel.”
Mae’r ysgol yn hynod falch o’r datblygiad hwn, gan ei ystyried yn gam pwysig tuag at baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ysgol, gan eu grymuso i fod yn aelodau hyderus ac annibynnol o’r gymdeithas.


