Hafan > Newyddion > Grwp Partneriaeth Rhieni (3)

Grwp Partneriaeth Rhieni (3)



Roedd hi’n braf iawn gweld cymaint o rieni’n mynychu cyfarfod y Grŵp Partneriaeth Rhieni heddiw.  Mae’r grŵp yn cyfarfod ar ddydd Iau cyntaf pob mis.

Yn y cyfarfod heddiw, trafodwyd y canlynol:

  • Cyfathrebu rhwng yr ysgol a’r cartref ynghylch diwrnod y disgyblion yn yr ysgol. Mae’r ysgol yn parhau i weithio’n agos gyda rhieni i gyfathrebu’n effeithiol drwy ap SeeSaw.
  • Y pennaeth dros dro, Deiniol Harries, yn rhannu diweddariadau am weithgareddau diweddar yn yr ysgol, gan gynnwys paratoi ar gyfer arolygwyr Estyn a gwaith allanol (fel y fflat annibynnol ar gyfer disgyblion hŷn).
  • Leusa a Hannah, arbenigwyr ymddygiad yr ysgol, yn egluro eu rôl a sut maen nhw’n cefnogi staff a disgyblion gyda chynlluniau ymddygiad, gan gynnwys rhaglenni toiledu.
  • Y cyfarfod nesaf: Bydd Rachel Hudson, nyrs arbenigol o Derwen, yn ymuno i drafod ‘materion toiledu’.
  • Rhannwyd holiadur i rieni drwy SeeSaw – ond yn anffodus nid oedd llawer wedi ymateb.
  • Digwyddiad Gwyliau’r Pasg: Mae’r Grŵp Partneriaid Rhieni yn gobeithio trefnu digwyddiad yn yr ysgol, gyda mwy o wybodaeth i ddilyn yn nes at y dyddiad.

Pob newyddion