Hafan > Newyddion > Grwp Partneriaeth Rhieni (4)
Grwp Partneriaeth Rhieni (4)
Yn ystod cyfarfod yr wythnos hon, daeth Rachel Hudson o Derwen i siarad am faterion toiledau. Dyma'r hyn a drafodwyd:
-
Trafododd Rachel a Helen awgrymiadau, cynlluniau a heriau ynghylch defnyddio’r toiled gyda rhieni.
-
Prif bryder rhieni oedd "sut a phryd" i ddechrau. Esboniodd Derwen y gefnogaeth maent yn ei gynnig a'r newid yn yr arferion gorau ar gyfer paratoi at hyfforddiant toiled. Yr arfer gorau bellach yw dechrau cyn gynted â phosibl a pheidio ag aros am "arwyddion".
-
Trafododd y nyrsys beth oedd ar gael ar gyfer 'incontinence', amserlenni gweledol, adnoddau defnyddiol ac amserlenni i hwyluso cyfathrebu rhwng gwahanol leoliadau.
-
Trafodaeth am sut y gall materion toiled, megis cadw dŵr yn y bledren, rhwymedd a dolur rhydd, gael effaith fawr ar ymddygiad ac oblygiadau difrifol i iechyd.
-
Pwysleisiodd y grŵp bwysigrwydd cyfathrebu da i fonitro newidiadau ac arwyddion cynnar o broblemau.
-
Roedd y nyrsys yn awyddus i helpu, ac awgrymwyd cynnal gweithdai gyda theuluoedd a staff yn yr ysgol yn ystod tymor yr haf.
Bydd mwy o wybodaeth am y weithdy pan fydd dyddiad gennym.