Hafan > Newyddion > Trip 'Taith' Barcelona

Trip 'Taith' Barcelona



Taith Fythgofiadwy i Barcelona i Ddysgwyr Llwybr Galwedigaethol

Mis Mai, cafodd grŵp o ddisgyblion ar ein Llwybr Galwedigaethol y cyfle i dreulio wythnos fythgofiadwy yn Barcelona – profiad unigryw a fu’n bosibl diolch i gefnogaeth hael grant Taith, Llywodraeth Cymru.

Yno fe aeth y disgyblion ar ymweliad arbennig i ysgol leol, Ysgol La Ginesta, lle cawsant y cyfle i gymharu agweddau ar ‘Les’ gyda disgyblion o Gymru.  Roedd hwn yn brofiad gwerthfawr iawn, gan alluogi pawb i ddysgu am wahanol ddulliau o gefnogi lles disgyblion mewn cyd-destun rhyngwladol.

Wrth gwrs, nid gwaith yn unig oedd ar yr agenda!  Cafodd y disgyblion amser hefyd i archwilio rhai o atyniadau mwyaf enwog Barcelona.  Ymhlith y rhain oedd ymweliad â’r Sagrada Familia, taith lawr y Las Ramblas, a chyfle i brofi gwefr parc thema Port Aventura.  I rai o’r disgyblion lwcus, roedd cyfle hyd yn oed i wylio gêm bêl-droed Barcelona – profiad na fyddant byth yn ei anghofio.

Bu’r daith hefyd yn gyfle i drio diwylliant a bwyd lleol, gyda nifer yn mentro blasu tapas am y tro cyntaf – profiad newydd a phleserus i bawb!

Roedd yr wythnos yn llawn hwyl, dysgu a datblygiad personol. Mae’n deg dweud bod pawb a gymerodd ran wedi elwa’n sylweddol, gan ddatblygu hyder, annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol.

Roedd yn bleser pur i’r staff gael mynd ar y daith gyda’r disgyblion, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfle a gafwyd trwy raglen Taith.  Bydd yr atgofion yn aros gyda ni am flynyddoedd i ddod.

Pob newyddion